Newidiadau i’ch gwariant Gofal Plant
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai / Gostyngiad y Dreth Gyngor ac eich bod wedi datgan gwariant Gofal Plant i ni ond o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol nad ydych bellach yn defnyddio ac yn talu’r darparwr allwch chi gadarnhau dros e-bost i ni pa ddyddiad y digwyddodd y newid hwn.
Os yw oriau’r gofal plant yr ydych yn talu amdanynt hefyd wedi lleihau neu gynyddu gallwch chi hefyd gadarnhau hyn drwy e-bost gan gadarnhau dyddiad y newid.
Sut i hawlio gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Dylech fod yn ymwybodol nad yw gostyngiad yn y Dreth Gyngor wedi’i gynnwys o fewn Credyd Cynhwysol ac mae angen ei hawlio ar wahân gan y Cyngor.
Sut i Hawlio Budd-dal Tai
Er mwyn hawlio Budd-dal Tai er mwyn cael cymorth tuag at eich rhent, rhaid i chi fodloni meini prawf penodol. Mae hyn yn cynnwys: eich bod o oed pensiwn, yn byw mewn llety â chymorth fel y diffinnir ar gyfer Budd-dal Tai neu eich bod yn derbyn Premiwm Anabledd Difrifol.
Mae gan ein ffurflen hawlio Budd-dal Tai gwestiynau hidlo er mwyn adnabod lle ydych chi o fewn y grwpiau hyn. Os nad ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael eich cynghori i hawlio Credyd Cynhwysol er mwyn cael cymorth tuag at eich costau Llety.
Os nad ydych yn gweithio bellach
Cadarnhewch i ni drwy e-bost pa ddyddiad y daeth eich cyflogaeth i ben a phryd yr ydych yn disgwyl derbyn eich cyflog olaf. Os oes gennych ohebiaeth gan eich cyflogwr yn cadarnhau hyn, anfonwch hwn atom dros e-bost.
Os yw eich cyflog wedi gostwng
Cadarnhewch i ni drwy e-bost ar ba ddyddiad y buodd eich cyflog ostwng, faint o oriau y byddwch yn gweithio rŵan a faint yr ydych yn ddisgwyl fydd eich cyflog. Os oes gennych ohebiaeth gan eich cyflogwr yn cadarnhau hyn, anfonwch hwn atom dros e-bost.
Os ydych wedi dechrau swydd newydd
Cadarnhewch i ni drwy e-bost ar ba ddyddiad y dechreuodd eich cyflogaeth, enw a chyfeiriad eich cyflogwr, eich oriau gwaith, cyflog yr awr, didyniadau pensiwn a’ch cyflog disgwyliedig. Os oes gennych dystiolaeth o hyn, anfonwch y dystiolaeth atom drwy e-bost.
Os yw eich oriau gwaith wedi cynyddu
Os ydych yn gweithio i’r un cyflogwr a bod eich oriau gwaith wedi cynyddu, cadarnhewch ar ba ddyddiad y buodd eich oriau gynyddu a beth yw eich cyflog bob awr ac anfonwch hyn atom drwy e-bost.
Newidiadau i’ch enillion hunangyflogedig
Os oes newid wedi bod i’ch enillion, hysbyswch ni drwy e-bost gan nodi beth yr ydych yn ddisgwyl fydd eich incwm a’ch gwariant ac am ba gyfnod ydych chi’n meddwl mai dyma fydd y sefyllfa. Os ydych yn parhau i weithio byddwn angen amcangyfrif o’ch incwm a gwariant wedi’i eitemeiddio yn ystod y cyfnod hwn.
Os ydych wedi ein hysbysu bod eich incwm hunangyflogedig wedi lleihau ac eich bod wedyn yn derbyn 80% o’ch incwm gan y Cynllun Cefnogaeth Incwm i’r Hunangyflogedig gan y Llywodraeth yna mae’n bosib y bydd angen i’ch hawliad gael ei ail-asesu.
Cynllun Cadw Swyddi y DU
Os ydych wedi ein cynghori bod eich cyflog wedi lleihau ac eich bod chi wedyn yn derbyn 80% o’ch cyflog gan y cynllun hwn, mae’n bosib y bydd angen i’ch hawliad gael ei ail-asesu.
Tystiolaeth ddogfennol i gefnogi eich hawliad
Rydym yn deall efallai na fydd hi’n bosib i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol er mwyn cadarnhau manylion yr hawliad yr ydych yn ei wneud. Mae prosesau wedi cael eu newid ac ni fydd y gwaith o asesu eich hawliad yn cael ei oedi oherwydd hyn.
Noder y bydd angen y dystiolaeth ddogfennol unwaith y bydd y cyfyngiadau teithio wedi cael eu codi a bydd y rheolau arferol ar gyfer dilysu manylion hawliadau yn dychwelyd. Mae canllawiau DWP yn nodi os yw gordaliadau yn cael eu cyfrifo o ganlyniad i’r ffaith bod y manylion ar y ffurflen yn anghywir yna bydd y gordaliad yn cael ei hawlio yn ôl a bydd unrhyw ddatganiadau ffug yn cael eu hymchwilio iddynt.