Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid ar gyfer Grant Datblygu Disgyblion i ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim neu sy'n derbyn gofal, ac mae'r cyfraddau ar gyfer 2020/21 fel a ganlyn:
- £125 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn Derbyn mewn Ysgol Gynradd
- £125 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 3 mewn Ysgol Gynradd
- £200 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn Ysgol Uwchradd
- £125 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn Ysgol Uwchradd
Mae disgyblion 4, 7, 11 a 14 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion hefyd yn gymwys.
Pwrpas y cynllun yw cynorthwyo teuluoedd sydd ar incwm isel i brynu:
- gwisg ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau
- dillad ac esgidiau ymarfer corff
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi fel y Sgowtiaid, Geidiaid, Cadlanciau, crefftau ymladd, chwaraeon, perfformio neu ddawns a mwy
- offer fel bagiau ysgol ac offer i’r cas pensiliau
- offer arbenigol ar gyfer pynciau fel dylunio a thechnoleg
- offer ar gyfer teithio tu allan i oriau ysgol fel dysgu awyr agored e.e. dillad dal dwr
Er mwyn bod yn deilwng rhaid i’r rhiant / gofalwr gwrdd ag un o’r meini prawf canlynol:
- Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
- Credyd Treth Plentyn ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol yn y cartref, fel yr aseswyd gan CthEM nad yw'n fwy na £16,190.
- Credyd Pensiwn (Gwarant)
- Cymorth dan Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400
Mae Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) i blant sy'n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol ar gael yn uniongyrchol o'r Gwasanaeth Dysgu. Gwnewch gais ysgrifenedig yn uniongyrchol i Heulwen Owen, Swyddog Cyswllt Addysg Plant Mewn Gofal, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni LL77 7TW.
Nid yw disgyblion sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd trefniadau amddiffyn trosiannol yn gymwys i gael y cyllid hwn.