Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Taliad ynysu


Mae'r cynllun hwn bellach wedi dod i ben

Gwybodaeth wreiddiol

Os yw gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) GIG Cymru wedi cysylltu â chi a rhoi cyfarwyddyd i chi hunanynysu, efallai fod gennych hawl i dderbyn Cymorth Ariannol.

Mae taliadau hunan-ynysu yn drethadwy.

Os ydych yn gweithio bydd rhaid i chi dalu treth ar y taliad os ewch dros y lwfans personol di-dreth. Bydd eich cod treth yn newid er pwrpas casglu’r dreth.

Ni fyddwch yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar y taliad. Os ydych yn hunan gyflogedig bydd rhaid i chi adrodd y taliad ar eich ffurflen dreth hunan asesiad.

Cynllun yn dod i ben ar 30 Mehefin

Mae’r cynllun cefnogaeth hunan-ynysu yn dod i ben ar 30  Mehefin.

Os rydych wedi profi’n positif ac wedi gorfod hunan-ynysu ar neu cyn 30 Mehefin, ac rydych yn gymwys am gefnogaeth, mae gennych 21 diwrnod ar ôl y diwrnod olaf o’ch cyfnod hunan-ynysu, i wneud cais. 

Nifer uchel iawn o geisiadau

Rydym yn profi nifer uchel iawn o geisiadau ar hyn o bryd ac mae ein hamseroedd prosesu yn cymryd mwy o amser nag arfer. Byddwn yn cysylltu â phob hawlydd ar ôl dod i benderfyniad.

Ar ôl i chi dderbyn cadarnhad eich bod wedi cymhwyso ar gyfer taliad hunan-ynysu, gall taliadau gymryd hyd at bythefnos.

Os ydych yn bodloni'r holl feini prawf cymhwystra, mae gennych hawl i gael Taliad Ynysu gwerth £500.

Meini prawf cymhwyster

  • Rydych wedi cael cyngor i hunanynysu gan
    • wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru fel achos indecs (yn cynnwys trwy gofrestru prawf LFD positif )
    • cynghorwyd eich plentyn i ynysu gan y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu o ganlyniad i brawf positif.
  • Rydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.
  • Ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad.
  • Ar hyn o bryd rydych chi neu'ch partner yn cael o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn.

Mae'r cynllun hwn wedi dod i ben

Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad dewisol. Gwiriwch y meini prawf ar y dudalen hon.

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn taliad dewisol o £500 os ydych yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysed eraill uchod, ond:

  • nid ydych chi neu eich partner yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn
  • byddwch yn wynebu caledi ariannol oherwydd nad ydych yn gallu gweithio am eich bod yn hunanynysu neu eich bod yn derbyn Tâl Salwch Statudol neu swm llai na hyn

Mae’r cais hwn ar gyfer un person yn unig ac mae’n rhaid i geisiadau pellach o fewn yr un aelwyd gael eu gwneud gan bob unigolyn.

Sicrhewch fod y wybodaeth isod gennych cyn dechrau eich cais:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • cadarnhad o’r dyddiad a roddwyd gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru
  • eich Datganiad Banc neu slip cyflog diweddaraf, neu brawf eich bod yn hunangyflogedig

Pan yn llenwi'r ffurflen, os dewiswch “Dim un o'r rhain” o dan yr adran “Budd-daliadau, pa un o’r budd-daliadau/cymorthdaliadau rydych yn eu derbyn?" byddwch yn gallu parhau â'ch cais trwy wneud cais am Daliad Disgresiwn.

Mae'r cynllun hwn wedi dod i ben

Cyfrifon Swyddfa Bost

Noder na allwn wneud taliadau i gyfrifon Swyddfa Bost. Cysylltwch â ni os mai dyma eich unig opsiwn os gwelwch yn dda. 

Hysbysiad preifatrwydd

Darllenwch hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Cynllun Cymorth Hunanynysu (linc allanol i wefan Llywodraeth Cymru).

Addysgu ar-lein

Sylwch nad yw cyfnodau o addysgu ar-lein gan ysgolion yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer taliadau hunan-ynysu.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.