Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn


Logo for the Anglesey Area of Outstanding Natural BeautyMae i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn un o’r tirweddau mwyaf amrywiol, prydferth ac arbennig ym Mhrydain..

Rhai o brif nodweddion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn yw’r:

  • clogwyni isel bob yn ail  a thraethau cerrig
  • clogwyni calchfaen serth bob yn ail a thraethau tywodlyd gwych
  • twyni tywod gyda thraethau

Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hefyd yn gartref i oddeutu 7,000 o bobl sy’n byw mewn cymunedau creadigol a bywiog.  Mae’r cymunedau hyn hefyd yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd i’r rhai sy’n dymuno ymlacio ar yr ynys neu gymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau awyr agored megis cerdded ar hyd 201km (125 milltir) llwybr yr arfordir.

Cafodd arfordir Môn ei ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1966 a’i gadarnhau yn 1967. Fe’i dynodwyd er mwyn diogelu apêl esthetaidd ac amrywiaeth tirwedd arfordirol a chynefinoedd yr ynys rhag datblygu amhriodol.

Dynodiad arfordirol gan mwyaf yw’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o 201 cilometr (125 milltir) o arfordir yr ynys ond gan gynnwys hefyd Fynydd Caergybi a Mynydd Bodafon. Mae swm sylweddol o dir arall sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gefndir i’r arfordir. Cyfanswm tir yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym Môn yw 221 cilometr sgwâr (21,500 hectar) gyda thrydedd ran o’r ynys ynddi.

Caiff nifer o cynefinoedd Ynys Môn eu diogelu ymhellach trwy ddynodiadau’r DU ac Ewropeaidd oherwydd eu gwerth o ran cadwraeth natur, ac mae’r rhain yn cynnwys :

  • 5 Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • 3 Ardal Diogelwch Arbennig
  • 1 Warchodfa Natur Genedlaethol
  • 31 o Safleoedd Gwyddonol Arbennig
  • 75 o Henebion Rhestredig

Mae’r cynefinoedd hyn a ddiogelir yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt fel Llamidyddion yr Harbwr a Brith y Gors.

Yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fe geir hefyd dri darn o arfordir agored heb ei ddatblygu sydd wedi eu dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae’r dynodiadau anstatudol hyn yn ategu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gan ymwneud ag oddeutu 50 km (31 milltir) o’r arfordir. Dyma’r rhannau o’r Arfordir Treftadaeth:

  • Gogledd Môn 28.6 kms (17 milltir)
  • Mynydd Twr 12.9 kms (8 milltir)
  • Bae Aberffraw 7.7 kms (4.5 milltir)

Gwaith a gweithgareddau yn yr ardal

Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw’r cyflogwyr mwyaf yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mewn rhai achosion, mae’n gyfuniad o’r ddau. Mae ystod y cynnyrch lleol geir ar yr ynys yn amrywio o gaws a siocled i win. Mae llawer o’r cynnyrch lleol hefyd yn organig.

Bydd oddeutu 2 filiwn o bobl yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn gan ddenu pobl o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a hefyd ymwelwyr o dramor. Mae’r ynys yn cynnig nifer o gyfleon hamdden i’r trigolion ac i ymwelwyr, gyda’r mwyafrif yn mwynhau’r traethau tywod gwych a’r golygfeydd ysblennydd.

Rhai o’r dulliau hamddena mwyaf poblogaidd yw hwylio, pysgota, seiclo, cerdded a syrffio gwynt. Mae’r rhain oll yn rhoi pwysau ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar yr un pryd, mae poblogrwydd yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel lle i gynnal y fath weithgareddau yn amlwg yn cyfrannu at yr economi leol.