Skip to content

Isle of Anglesey County Council


Beth ydym yn gwneud i helpu bioamrywiaeth ar Ynys Môn?


Yn gyffredinol mae bioamrywiaeth Prydain yn dirywio. Yn ystod y ganrif ddiwethaf collwyd 100 o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

Mae Ynys Môn hefyd wedi colli rhai rhywogaethau. Ar un adeg roedd Aderyn y Bwn yn bridio yn Ynys Môn – a deryn tebyg i’r Creyr Glas sy’n dibynnu ar welyau o hesg i fwydo a bridio. Mae’r rhain wedi diflannu ers blynyddoedd. Gynt roedd y Fôr-wennol fechan yn bridio yma ac acw ar arfordir Môn a hynny’n wir hefyd am Regen-yr-yd - ond nid ydynt yn gwneud hynny bellach.

Yn ogystal rydym wedi colli planhigion megis Eithin Pêr Bychan, Hesgen-y-coed-sych, Llysiau’r Gwaed, Caldrist Goch – ac yn y blaen. Mae llawer o bobl ac o gyrff sy’n gweithio’n ddyfal yn ceisio achub bywyd gwyllt yr Ynys ac adfer rhai rhywogaethau a gollwyd dros y blynyddoedd. Yma mae’r pwyslais ar ddiogelu a rheoli cynefinoedd hanfodol i’r rhywogaethau dan sylw.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn diogelu 60 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a phedwar ohonynt yn cael eu rhedeg fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol - megis Cwningar Niwbwrch. Mae’r Cyngor yn cynnig cymorth i fyd natur dan ei bolisïau cynllunio a thrwy ofalu am ardaloedd, megis Gwarchodfa Natur Leol y Dingle, Parc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi a chaeau’r ysgolion.

Mae gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 5 gwarchodfa natur a chan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn y Gors Goch. Ar yr arfordir mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen eiddo ac yn y mannau hynny mae diogelu bywyd gwyllt yn un o’r amcanion sylfaenol, a hefyd mae’r RSPB yn rheoli 6 gwarchodfa natur ac yn y broses o adfer tir gwlyb yng Nghors Dyga ac yng Nghors Crugyll. Mae’r safleoedd hyn i gyd yn rhai o bwysigrwydd Ewropeaidd a byd-eang.

Mae Prosiect Wiwer Goch Ynys Môn wedi bod yn llwyddiannus wrth achub ac adfer gwiwerod trwy’r Ynys.

Wedyn mae Prosiect Anifeiliaid Pori Ynys Môn yn gweithio gyda ffermwyr a mudiadau eraill i hyrwyddo’r arfer o bori tir garw yn ysgafn er lles bywyd gwyllt.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Yn yr uwch gyfarfod yn Rio yn 1992 cafwyd ymrwymiad gan arweinyddion y byd i ymgyrchu i achub bywyd gwyllt ac i ddiogelu amrywiaeth natur ar y ddaear a llofnodwyd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.

Dan y cytundeb hwn aethpwyd ati i baratoi Cynllun Bioamrywiaeth i’r Deyrnas Unedig. Ar lefel y sir mabwysiadwyd cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol yn yr ymgyrch i gyflawni a chyfarfod â thargedau y Deyrnas Unedig.

Sgrifennwyd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Ynys Môn (gweler y dogfennau PDF isod) at wneud gwaith rhwng y bobl leol a’r sefydliadau lleol gyda golwg ar werthfawrogi’r adnoddau lleol a gofalu amdanynt yn y dyfodol. Yn y cynllun mae camau ar gyfer cynnig cymorth i gynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

Ar gyfer y byd natur mewn Cynllinio, gweler y ddogfen Bywyd Gwyllt sy’n cael ei Warchod ac Adeiladau.