Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Apeliadau cynllunio


Mae’r tudalennau canlynol yn cynnig arweiniad byr i apeliadau cynllunio - os ydych angen arweiniad mwy manwl ystyriwch cael cyngor annibynnol gan syrfewr neu gynllunydd gwlad a thref.

Chwilio a gweld ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio

Rhagarweiniad ar gyfer apel

Mae’r hawl i wneud apel yn codi mewn un o dair/dri ffordd:

  • ble mae cais am ganiatad cynllunio yn cael ei wrthod gan y Cyngor Sir fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, neu
  • ble nad oes dyfarniad wedi cael ei wneud ar gais o fewn 8 wythnos iddo gael ei gofrestru gan y Cyngor Sir (ac nad yw’r ymgeisydd wedi cytuno i estyniad ar gyfer gwneud dyfarniad)
  • ble mae ymgeisydd yn anhapus ynglyn a amod(au) sydd wedi ei roi ar dystysgrif penderfyniad.

Camweinyddiad

Mae’r broses apelio ar wahân i fater camweinyddiad. Os bydd y cyngor wedi methu trin y broses yn gywir yna mae modd cwyno i’r ombwdsman fydd yn ymchwilio i weld a ddilynwyd y trefnau cywir.

Mae modd cysylltu â’r ombwdsman yn:

Ombwdsman Llywodraeth Leol yng Nghymru
Tŷ Derwen
Lôn y Cwrt
Pen y Bont ar Ogwr
CF31 1BN

ebost: ymholiadau@ombudsman-wales.org

Ble mae’r cyngor wedi gwrthod caniatad cynllunio, mae’n gyfreithiol ofynnol arnynt i roi rhesymau dros y penderfyniad. Ar yr apel mae’n rhaid cyfiawnhau pob un o’r rhesymau a ddewiswyd.

Fe wneir hyn drwy alw neu gynnig tystiolaeth i’r Arolygydd Cynllunio sy’n profi’r rhesymau a roddwyd.

Fe fydd apelwyr yn ceisio cynnig neu alw tystiolaeth i ddangod fod y bwriad yn dderbyniol yn nhermau polisi cynllunio ag ystyriaethau cynllunio materol eraill. Hyn hefyd fydd yr achos ble mae’r apelydd yn apelio am nad yw’r Cyngor wedi methu gwneud dyfarniad ar y cais o fewn yr amser penodol.

Fe all oblygiadau costau godi ar rai apeliadau ble mae’r Cyngor yn methu cyfiawnhau eu rhesymau dros wrthod neu ble mae’r apelydd yn apelio ar seiliau afresymol. Mae rheolau arbennig yn bodoli ar gyfer gwneud a dyfarnu ceisiadau am gostau.

Mewn cyfraith mae pob apel yn cael ei wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe wnaiff y Cynulliad apwyntio Arolygydd Cynllunio i ddyfarnu’r cais.

Mewn rhai achosion, fel arfer rhai’n ymwneud a cynigion mawr neu pwysig, fe fydd y Cynulliad yn cadw’r hawl i wneud y dyfarniad eu hunain. Fodd bynnag yn y rhan fwyaf o achosion mae’r Cynulliad yn dirprwyo’r hawl i wneud dyfarniad ar apel i’r Arolygydd Cynllunio a apwyntir.

Arolygwyr cynllunio

Fel arfer yr Arolygydd Cynllunio fydd gan yr hawl i ddyfarnu’r cais Fe all ef/hi ganiatau’r apel a rhoi caniatad cynllunio gyda amodau priodol. Hefyd fe all ef/hi wrthod yr apel a gwrthod rhoi caniatad cynllunio. Fe fydd yn rhaid rhoi rhesymau dros wrthod.

Mae trefn tebyg yn bodoli ar gyfer apeliadau yn erbyn rhybuddion gorfodaeth cynllunio a gwrthod (neu fethu dyfarnu) tystysgrifau cyfreithlondeb.

Mae Arolygwyr Cynllunio yn bobl broffesiynol o wahanol ddisgyblaethau sydd gyda profiad o weithio ym maes cynllunio gwlad a thref. Maent yn cynnwys cyfreithwyr, technegwyr a phenseiri, syrfewyr a chynllunwyr o’r sector breifat a’r un gyhoeddus.

Fe fydd yr Arolygydd Cynllunio yn ‘sgwennu llythyr penderfyniad sy’n gosod allan y dyfarniad a’r rhesymau drosto. Os oes unrhyw gais am gosatu wedi ei wneud fe fydd llythyr ar wahan yn cael ei ‘sgwennu.

Mae yna hawl cyfreithiol i herio dyfarniad Arolygydd Cynllunio yn yr Uchel Lys. Fodd bynnag mae’r sail ar gyfer y fath her yn gyfun iawn; mae’n rhaid fod yr Arolygydd Cynllunio unai wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol neu camgymeriad yn y drefn a ddilynwyd ar yr apel. Beth bynnag ni fydd y Llys yn ail-ystyried y dyfarniad ac yn rhoi eu dyfarniad nhw yn lle ‘r un yr Arolygydd Cynllunio. Os yw’r Llys yn meddwl fod y dyfarniad yn anghywir, fe fyddent yn ei ddileu ac yn gyrru’r mater yn ol i’r Cynulliad iddyn’ nhw ystyried yr apel eilwaith.

Yn y rhan fwyaf o ffyrdd i wneud apeliadau cynllunio mae yna gyfle i ofyn am gostau yn erbyn y prif barti arall i’r apêl.

Mae gofyn a dyfarnu ceisiadau am gostau yn cael ei reoli gan gynghor llywodraethol sydd i’w ganfod yng Nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig 29/93.

Mae costau fel arfer yn cael eu rhoi yn erbyn un o’r ddau brif barti ar apêl cynllunio. Y rhain yw’r apelydd a’r Cyngor Sir (fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol).

Mae unrhyw gais am gostau yn gorfod cael ei wneud cyn ddiwedd yr apêl gynllunio ac fe’i ddyfarnir gan yr Arolygydd Cynllunio sy’n dyfarnu’r apêl.

Nid yw’r rheol arferol mewn achosion Llys sifil (sef fod y collwr yn talu costau’r ennillydd) yn berthnasol i apeliadau cynllunio. Fel arfer mewn apeliadau cynllunio mae’r prif bartion yn talu eu cosatu eu hunain. Dywed y Cylchlythyr fod ceisiadau am gostau yn cael eu gwneud mewn dim ond 30% o’r holl apeliadau cynllunio.

Mae penderfynu ar gostau ar wahan i ddyfarnu yr apêl cynllunio ac mewn llythyr ar wahan. Nid yw gofyn neu dyfarnu costau yn amharu ar y penderfyniad yn yr apêl cynllunio.

Mae’r Cylchlythyr yn gwneud hi’n glir na ddylid rhoi costau mewn apeliadau cynllunio ond ble mae yna ymddygiad afresymol wedi bod gan un parti ac fod hyn wedi arwain y parti arall i wario costau yn ddiangen.

Mae’r Cylchlythyr yn rhoi manylion o’r math o ymddygiad a all ei ystyried i fod yn afresymol. Mae’r Cylchlythyr yn rhoi’r esiamplau canlynol o ymddygiad afresymol ar ran apelydd:

  • methu a chadw at ofynio y rheolau ar gyfer trefn yr apêl
  • methu a dilyn apel neu fynychu yr apêl
  • cyflwyno rhesymau newydd dros apelio neu codi materion newydd yn hwyr yn yr apêl
  • tynnu’r apêl neu reswm dros yr apel yn ol yn hwyr ac heb fod yna newidiadau mewn amgylchiadau
  • bwrw ‘mlaen efo apel sydd yn amlwg heb siawns rhesymol o lwyddo

Mae’r Cylchlythyr yn rhoi’r esiamplau canlynol o ymddygiad afresymol gan Gyngor a all arwain at ddyfarniad o gostau yn eu herbyn:

  • methu a chadw at ofynion y rheolau ar gyfer trefn yr apel
  • methu cyflwyno tystiolaeth i gyfiawnhau pob rheswm dros wrthod
  • methu ac ystyried unrhyw bolisi perthnasol neu reol gyfreithiol
  • methu a gofyn am fanylion pellach gan yr ymgeisydd cyn gwrthod y cais
  • methu a chymeradwyo cynllun a fu i apel blaenorol ddangos a fyddai’n dderbyniol (ac na fu newid mewn amgylchiadau yn y cyfamser)
  • yflwyno rhesymau newydd dros wrthod yn hwyr yn yr apel neu rhoi heibio rheswm dros wrthod yn hwyr yn yr apel
  • gosod amod ar ganiatad sydd yn afresymol, yn anghyfiawn, ddim ei angen, yn amherthnasol neu na ellid ei orfodi
  • gofyn am oblygiad cynllunio (sef cytundeb 106) sy’n afresymol
  • methu ac ail-ganiatau caniatad sy’n bodoli’n barod neu sydd newydd ddiweddu heb fod rheswm digonol
  • i afresymol wrthod cymeradwyaeth o fater a gadwyd yn ol ble mae caniatad amlinellol eisioes wedi ei ddatgan.

Ble mae’r Arolygydd Cynllunio yn credu fod ymddygiad wedi bod yn afresymol fe fydd yn manylu hyn yn ei lythyr ar gostau ac yn penderfynu os yw’r ymddygiad yna wedi arwain i’r parti arall wario costau yn ddiangen. Os yw’r ddau ran o’r maen prawf wedi eu cyrraedd, fe all yr Arolygydd Cynllunio roi costau.

 

 

Fe fydd dyfarniad am gostau yn cael ei drin fel beirniadaeth gan yr Uchel Lys ac yn cael ei orfodi felly.

Mae’r parti sy’n cael eu gorchymyn i dalu costau yn derbyn manylion o’r costau a hawliwyd gan y parti arall ac fe ddisgwylir iddynt wneud cynnig. Ble ni all y partion gytuno ar y swm i’w dalu, fe fydd y parti sy’n hawlio’r gorchymyn yn gwneud cais i’r Llys i gael asesu’r costau. Wedi eu asesu fe ellir gorfodi’r costau yn erbyn y parti sy’n rhaid talu fel os y byddai beirniadaeth yr Uchel Lys yn eu herbyn.

I ddechrau’r broses apêl bydd rhaid i’r ymgeisydd gwblhau nifer o ffurflenni a’i dychwelyd i swyddfa’r Arolygydd Cynllunio.

Cewch gopi o’r ffurflenni trwy gysylltu â swyddfa’r Arolygydd Cynllunio yng Nghaerdydd.

Yng Nghymru nid oes modd i wrthwynebwyr apelio yn erbyn dyfarniad, er enghraifft, apelio yn erbyn dyfarniad i ganiatáu caniatâd cynllunio ar eiddo cyfagos. Fodd bynnag, os bydd ceisydd yn apelio, mae’r gyfundrefn yn caniatáu i’r trydydd partio fynegi eu barn i’r Arolygydd.

Mae’r ffurflen apel yn rhoi dewis i’r apelydd o’r modd i ddelio ag apêl. Mae tair ffurf ar apêl.

Mae’r ffurf yma yn gofyn i’r apelydd a’r Cyngor yrru datganiadau ysgrifenedig i’r Arolygydd Cynllunio a ddewiswyd i ddyfarnu’r apel. Fe wnaiff yr Arolygydd Cynllunio ystyried y datganiadau a gwneud ymweliad a safle’r apel. Fe fydd ef/hi yna’n penderfynu’r apêl. Hwn yw’r ffurf fwyaf cyffredin ar apeliadau.

Yn y ffurf yma fe fydd yr apelydd a’r Cyngor yn gyrru datganiadau ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio. Fe fydd yr Arolygydd Cynllunio yn cynnal gwrandawiad anffurfiol ble y caiff yr apelydd, y Cyngor ag unrhyw drydydd parti sydd â diddordeb (a all fod yn aelod o’r cyhoedd) gyfle i gyflwyno eu hachos. Mae’r gwrandawiad yn drafodaeth anffurfiol a arweinir gan yr Arolygydd gyda phawb o amgylch yr un bwrdd. Ni chaniateir croesholi partion eraill, ond fe all yr Arolygydd ofyn cwestiynau i unrhyw barti fel mae ef/hi yn gweld yn briodol. Fe fydd yr arolygydd Cynllunio yn cynnal ymweliad safle gyda (o leiaf) gynrychiolwyr o’r ddau brif barti.

Hwn yw’r ffurf leiaf cyffredin ar apel. Mae’n broses ffurfiol ble y cyflwynir tystiolaeth a ellir ei groesholi. Fe all fod yn rhaid cyflwyno rhai mathau o dystiolaeth o dan lw. Weithiau fe all yr Arolygiaeth gynllunio benderfynu mae ymchwiliad cyhoeddus yw’r ffurf briodol ar gyfer apel ac fe ddywedent hyn wrth y partion yn gynnar yn y broses. Yn aml fe fydd cyfreithwyr yn cynrychioli partion ac fe all pwyntiau cyfreithiol godi a’u dadlau o flaen yr Arolygydd Cynllunio. Eto fe fydd yr Arolygydd Cynllunio yn ymweld â’r safle ym mhresenoldeb (o leiaf) gynrychiolwyr y ddau brif barti.

Fe ddylech nodi bydd achlysuron yn codi pan fydd cais cynllunio yn cael ei ‘alw mewn’ i’w benderfynu gan yr Arolygaeth Cynllunio.