Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ceisiadau datblygu economaidd a busnes


Bydd y gwasanaeth cynllunio yn rhoddi blaenoriaeth i ddelio gyda cheisiadau cynllunio y mae iddynt botensial o safbwynt datblygu economaidd.

Cytunwyd ar y protocol sydd ynghlwm gyda’r cyrff allweddol yr ymgynghorir gyda nhw wrth ddelio gyda cheisiadau sy’n creu neu sy’n diogelu 10 neu ragor na 10 o swyddi.

Trafodaethau cyn prosesu cais gyda’r gwasanaeth cynllunio ac asiantwyr eraill

Mae croeso i gynrychiolwyr ac i ymgeiswyr posibl trafod ceisiadau cyn eu cyflwyno i’r Cyngor. Un ffactor allweddol sy’n penderfynu pa mor sydyn y gwneir penderfyniad ar geisiadau yw sicrhau bod y cais yn cael ei gyflwyno’n gywir o’r cychwyn cyntaf. Mae modd cael enw y Swyddog Cynllunio priodol trwy gysylltu gyda’r derbynnydd (ffôn 01248 752428) ac os bydd raid gellir trefnu dyddiad apwyntment o fewn 1 diwrnod gwaith. Pan fo cyfarfodydd o’r fath yn cael eu cynnal bydd y Swyddog Cynllunio yn cadw cofnod o’r trafodaethau a fydd o gymorth i brosesu cais yn effeithiol unwaith y bydd cais o’r fath wedi’i gyflwyno’n ffurfiol.

Os gofynnir i’r Cyngor gadw’r materion yn gyfrinachol ar yr adeg benodol hon yn y trafodaethau yna bydd y Cyngor yn cydymffurfio. Unwaith y bydd cais yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol yna mae’r cais hwnnw wedyn yn ddogfen gyhoeddus.

Cynghorir ymgeiswyr ac asiantwyr i gysylltu gydag asiantaethau eraill a fydd yn gyrff o bwys yr ymgynghorir â nhw os cyflwynir cais. Dan amgylchiadau arbennig efallai y bydd yn briodol galw tim o swyddogion ynghyd i gynghori ymgeiswyr/asiantwyr cyn iddynt gyflwyno ceisiadau.

Cyflwyno ceisiadau

Ar y ffurflen gais mae nodiadau a rhestr o’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i chwi siecio yn ei herbyn. Mae’n bwysig bod y cyfan o’r manylion hyn, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a gyfyd o’r trafodaethau cyn cyflwyno cais, yn cael eu cyflwyno gyda’r cais. Onid yw’r wybodaeth a gyflwynir yn ddigonol yna mae’r awdurdod lleol â’r hawl i wrthod caniatâd cynllunio.

Ymateb cydlynol

Bydd Tim Datblygu’r Cyngor, ac arno gynrychiolwyr o’r holl Adrannau perthnasol, yn ystyried y ceisiadau sy’n ymwneud â Datblygu Economaidd. Trwy’r dull hwn bydd modd rhoddi ymateb technegol cydlynol i ymholiadau a geir cyn cyflwyno cais. Yn ogystal bydd y Tim Datblygu hwn yn mynd ar drywydd ceisiadau cynllunio i sicrhau bod popeth bosib yn cael ei wneud fel bod y penderfyniadau datblygu yn rhai o safon ac yn cael eu gwneud cyn gynted ag y bo’n bosib.