Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gweld ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladu


Gallwch chwilio am ac edrych ar geisiadau cynllunio a rheoli adeiladu ar ein cofrestr gyhoeddus gyffredinol ac ar ein map rhyngweithiol - MapMÔN – sydd hefyd yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am eich cyfeiriad chi a’r ardal o’i gwmpas.

Gall penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gael eu gwneud naill ai gan swyddogion neu gan gynghorwyr etholedig mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, gan ddibynnu ar natur y cais. 

Mae gweddarllediad ar gael o drafodaethau diweddaraf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Chwilio a gweld ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio a rheoli adeiladu

Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio o 1984 yn fras drwy ddefnyddio’r wybodaeth isod:

  • cyfeirnod cais cynllunio – e.e. 49C185H
  • manylion – e.e. Ward, Dyddiad Dilys neu air allweddol yn y cais.
  • cyfeiriad – Gallwch roi gwybodaeth rannol i mewn, e.e. bydd rhoi’r gair “Newydd" i mewn yn dangos yr holl geisiadau ar gyfer Stryd Newydd a Ffordd Newydd.   
  • mapiau – mae ceisiadau cynllunio sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 1947 ar gael i edrych arnynt ar ein map rhyngweithiol, MapMÔN. (Nodwch os gwelwch yn dda na fydd ceisiadau cynllunio hanesyddol ond yn cynnwys cyfeirnod efallai a bod y disgrifiadau ar gael yn Saesneg yn unig

Mae’r cyfleuster ar-lein yn cyhoeddi’r wybodaeth isod ar y ceisiadau a gyflwynwyd am ganiatâd cynllunio a’r cynlluniau a’r dogfennau cefnogol ynghyd â’r penderfyniad terfynol (efallai y bydd gwybodaeth wedi cael ei golygu ble mae hynny’n berthnasol). 

Ni fydd y dogfennau cysylltiedig (y manylir arnynt uchod) ond ar gael ar gyfer ceisiadau sy’n ddilys o’r 14 Awst, 2019. Gallwch ofyn am yr un dogfennau o geisiadau cyn y dyddiad hwn drwy llenwi ein ffurflen ar-lein.

Bydd y Gwasanaeth yn ceisio darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn y cais er, yn ystod cyfnodau prysur, efallai y bydd oedi gyda phrosesu eich cais.

Nid yw’r wybodaeth gynllunio a ddangosir o angenrheidrwydd yn adlewyrchiad o hanes llawn unrhyw safle ac ni ddylid ei hystyried fel dewis arall i’r wybodaeth a geir drwy chwiliad pridiannau tir lleol ffurfiol. Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn ddibynadwy, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na’n rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch cywirdeb, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth ar gyfer ei defnyddio i unrhyw ddiben ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y modd y caiff ei defnyddio neu ei dibynnu arni.  

Nid yw cofnodiadau Rheoli Adeiladu’n gofnodiadau cyhoeddus sy’n golygu nad oes gan y cyhoedd yr hawl i edrych arnynt nac ychwaith i gael gafael ar wybodaeth a gyflwynwyd dan y Rheoliadau Adeiladu. Fodd bynnag, gall perchennog eiddo neu gyfreithiwr sy’n gweithredu mewn perthynas â gwerthu’r eiddo  ofyn am gael gweld cynlluniau neu gael copi o dystysgrifau cwblhau a rhybuddion o benderfyniad am ffi benodol. 

Nodwch os gwelwch yn dda y caiff cofnodiadau Rheoli Adeiladu eu cadw am 16 o flynyddoedd a hynny’n unol â pholisi cadw cofnodiadau’r Cyngor.

Hawlfraint

Caiff cynlluniau, darluniadau ac unrhyw ddeunydd arall a gyflwynir i’r awdurdod lleol eu diogelu gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47). Ni fedrwch ond defnyddio deunydd sydd wedi cael ei lawrlwytho ac / neu ei argraffu i bwrpas ymgynghori, i gymharu ceisiadau cyfredol gyda chynlluniau blaenorol ac i siecio a yw’r datblygiadau wedi cael eu cwblhau yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd. Ni chewch wneud copïau pellach heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint ymlaen llaw.