Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Archwiliad cyhoeddus


Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn ar 29 Ionawr 2016, cyflwynwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd (CDLl ar y cyd) i Lywodraeth Cymru i’w Archwilio o dan adran 64(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Dyma gopi o’r Datganiad.

Bydd Archwiliad y CDLl ar y cyd yn cael ei wneud gan Arolygydd Annibynnol o’r Arolygiaeth Cynllunio a fydd yn penderfynu os yw’r Cynllun yn ‘gadarn’. Bydd yr Arolygydd yn asesu cadernid y CDLl ar y cyd yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ystyried gwrthwynebiadau unigol, a bydd yn seilio ei farn ar y dystiolaeth sydd ar gael, y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau penodol y CDLl ar y cyd a’r ardal. Fe dderbyniodd yr Arolygiaeth Cynllunio y dogfennau cyflwyno yn llawn ar 18 o Fawrth 2016.

Arolygydd Cynllunio

Mae’r Arolygiaeth Cynllunio wedi penodi yr Arolgwyr canlynol i gynnal yr archwiliad annibynnol:

Mr Hywel Wyn Jones BA(Hons), BTP, MRTPI

Mr Richard Duggan BSc(Hons) DipTP, MRTPI

Swyddog Rhaglen

Mae’r Archwiliad yn cael ei weinyddu gan y Swyddog Rhaglen sydd yn gweithio o dan arweiniad yr Arolygwyr ac yn annibynnol o’r Cyngor.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Archwiliad ac/neu unrhyw ohebiaeth i sylw’r Arolygwyr i’r Swyddog Rhaglen.

Manylion Cyswllt:

  • E-bost:  SwyddogRhaglen@gwynedd.gov.uk
  • Ffôn:  01286 679411
  • Cyfeiriad:  Swyddog Rhaglen, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon. LL55 1SH

 

Llyfrgell yr Archwiliad

Bydd y dudalen yma yn eich diweddaru ar gynnydd y CDLl ar y Cyd fel mae’n symud drwy’r cam Archwilio.  Bydd y dudalen yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd fel mae gwybodaeth yn cael ei dderbyn.

Mae’r dogfennau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gael i’w harchwilio drwy apwyntiad yn unig gyda’r Swyddog Rhaglen, neu gellir clicio ar yr isod:

Statws

  • Cyflwyno’r CDLl i’r Llywodraeth - Mawrth 2016
  • Cyfarfod Cyn-gwrandawiad - 14 Mehefin 2016

Cyn i sesiynau Gwrandawiadau’r Archwiliad gychwyn, fe fydd Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn cael ei gynnal ar 14 Mehefin 2016 i drafod rheolaeth yr Archwiliad. Bydd y cyfarfod yma yn cael ei gynnal yn Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH, gan gychwyn 10.30yb. Bydd y cyfarfod yma yn helpu’r Arolygydd a phawb arall sydd gan ddiddordeb yn yr Archwiliad baratoi ar ei gyfer, ac fe fydd yr Arolygydd yn amlinellu sut fydd yr Archwiliad yn cael ei gynnal a’r dulliau gweithredu a fydd angen eu dilyn. Mae’n bwysig bod pawb sydd yn dymuno bod yn rhan yn yr Archwiliad, yn enwedig y rheini sydd yn bwriadu bod yn rhan o’r sesiynau gwrandawiadau, yn mynychu’r cyfarfod. Mae’r Canllawiau am y broses Archwiliad i’w gweld yn Llyfrgell yr Archwiliad (Dogfen rhif PCC59 – “Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol – Canllaw Gweithdrefnol”), a bydd Rhaglen ar gyfer y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad ar gael yn fuan ar wefan yr Archwiliad.

Bydd angen hysbysu’r Swyddog Rhaglen erbyn 27 Mai 2016 os ydych yn bwriadu mynychu’r cyfarfod cyn-gwrandawiad.

  • Gwrandawiadau - Medi 2016

Bwriedir dechrau’r Sesiynau Gwrandawiadau ar 6 Medi 2016 am bum wythnos hyd at 6 Hydref 2016 gydag un toriad.  Dyma gopi o’r Hysbysiad sy’n cadarnhau cychwyn y Sesiynau Gwrandawiadau.  Bydd manylion cyfoes am y Sesiynau Gwrandawiadau (gan gynnwys y rhaglen o faterion a phynciau) i’w gweld / llwytho i lawr o’r dudalen gwe a welir uchod ar gyfer y Sesiynau Gwrandawiadau.

  • Newidiadau Materion sy’n Codi - Ionawr 2017

Mae’r Cynghorau yn ymgynghori ar nifer o newidiadau arfaethedig i’r Cynllun sydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r materion sy’n deillio o Sesiynau Gwrandawiad yr Archwiliad. Gelwir y rhain yn Newidiadau Materion sy’n Codi (NMC). Mae copïau o’r Gofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi (ynghyd ag atodiadau cysylltiedig i’r Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a fersiwn Cyfansawdd o’r Cynllun, sy’n cynnwys y NMC) ar gael i’w gweld o 26 Ionawr 2017 tan hanner nos 9fed Mawrth 2017. Mae mwy o fanylion am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i’w gweld / llwytho i lawr drwy glicio ar y ddolen isod:

Anfonir holl sylwadau ar y Gofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi i’r Arolygydd eu hystyried.

Os bydd yr Arolygydd yn penderfynu bod gofyn cael gwrandawiadau ychwanegol, caiff y rhain eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 24 April 2017.

  • Gwrandawiadau Pellach

Fe wnaeth yr Arolygydd gynnal gwrandawiadau pellach i drafod Newidiadau Materion a Godwyd ar 26 a 27 Ebrill 2017 yn Swyddfa Penrallt, Cyngor Gwynedd, Caernarfon.  Gweler y dogfennau perthnasol yn Llyfrgell yr Archwiliad (Sesiynau Gwrandawiad).

  • Adroddiad yr Arolgwr

Yn dilyn cwblhau’r Archwiliad, bydd yr Arolygwyr yn gyrru Adroddiad i’r Cynghorau a fydd yn manylu ar newidiadau y mae’n rhaid i’r Cynghorau eu gwneud i’r Cynllun a darparu braslun o’r rhesymau dros eu gwneud. Bydd yr argymhellion a wneir yn Adroddiad yr Arolygwyr yn rhwymol, a bydd yn rhaid i’r Cynghorau dderbyn y newidiadau fydd yn cael eu hargymell gan yr Arolygwyr.

Disgwylir derbyn yr Adroddiad ar gyfer y broses wirio ffeithiol yn unig erbyn 19 Mehefin 2107. Ar sail cwblhau’r broses yma yn amserol, mae’r Cynghorau’n rhagweld gellir cyhoeddi’r adroddiad erbyn diwedd Gorffennaf 2017.