Diweddariad Canolfan Brofi Coronafeirws yng Nghaergybi
O dydd Gwener, 19 Mawrth, ymlaen bydd y ganolfan brofi galw-i-mewn a thrwy ffenestr y car yng Nghaergybi (wedi'i leoli ym Maes Parcio Stanley Crescent, Caergybi) ar agor rhwng 8:00am ac 8:00pm.
Ni fydd angen gwneud apwyntiad bellach; dim ond troi fyny.
Rydym yn annog trigolion i fynd am brawf ar unwaith os ydyn nhw'n dangos unrhyw un o'r symptomau isod:
- Twymyn / tymheredd uchel
- Peswch newydd, parhaus (gyda chrachboer neu ddim)
- Symptomau sy’n debyg i’r ffliw gan gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol: poen cyhyrau, syrthni neu flinder, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n llawn, tisian parhaus, dolur gwddw ac/neu grygni, yn fyr o anadl neu’n gwichian
- Synnwyr o arogl wedi newid neu ar goll neu yn yr un modd synnwyr blas wedi ei effeithio
- Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd wedi derbyn prawf COVID-19 positif
- Dolur rhydd neu daflu fyny
- Dylai unrhyw symptom newydd neu newid mewn symptomau yn rhywun sydd eisoes wedi derbyn prawf negyddol fod yn destun prawf newydd.
Helpwch ni i amddiffyn cymuned Caergybi, Ynys Gybi a #DiogeluYnysMon
Llangefni
Bydd canolfan brofi galw-i-mewn a thrwy ffenestr y car yn agor yn Llangefni ddydd Gwener 19 Mawrth i'w gwneud yn haws i bobl yr ardal gael prawf COVID-19 yn agosach i'w cartref.
Bydd y ganolfan ym Swyddfa'r Cyngor, yn Llangefni, a bydd ar agor o 9.30am i 4.30pm, saith diwrnod yr wythnos.
Gellir gwneud apwyntiad am brawf drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/trefnwch-brawf-covid-19/
Os byddwch yn mynd am brawf, rhaid i bawb yn eich cartref hunanynysu ar unwaith tan i chi dderbyn canlyniad eich prawf.