Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaethau cyfarpar ac addasiadau


Nod y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol ac Addasiadau yw cefnogi pobl i ddiogelu eu hannibyniaeth yn y gymuned yn seiliedig ar amrediad o gyfarpar a chymhorthion anabledd fydd yn cynnal ac yn gefn i bobl yn eu cartrefi.

Ydych chi’n cael problemau i wneud tasgau bob dydd?

  • Gofalu amdanoch eich hunain, er enghraifft, ymolchi, mynd i’r ty bach a gwisgo, bwyta ac yfed
  • Codi o un lle i’r llall, fel codi o’r gwely a mynd i’r gwely, eistedd a chodi oddi ar gadair neu’r  ty bach, mynd i mewn i’r bath neu gawod a dod allan ohonynt
  • Symudedd, fel mynd i fyny ac i lawr y grisiau
  • Gweithgareddau yn y cartref fel coginio, gwaith ty a siopa

Mae dyfeisiau, offer a chyfarpar ar gael sy’n helpu llawer o bobl i reoli’r gweithgareddau hyn yn annibynnol.

Prynu eitemau’n breifat

Os ydych am brynu cyfarpar yn breifat, mae nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol sy’n gwerthu offer i bobl anabl. Gallwch eu prynu ar y We ac mewn nifer o archfarchnadoedd, siopau DIY, siopau cyffredinol a fferyllfeydd. Hefyd mae cwmnïau sy’n gwerthu offer arbenigol i bobl anabl, gyda rhai’n cynnig dod allan i’ch cartref.

Os ydych yn ystyried prynu eitemau mawr, byddem yn awgrymu eich bod yn gweld sut mae’n gweithio’n gyntaf ac yn rhoi cynnig arno cyn prynu.

Nid yw Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gwasanaethau Iechyd a Cymdeithasol yn gallu ad-dalu costau prynu unrhyw eitemau’n breifat.

Sgwter Symudedd

Cofiwch, os ydych chi’n ystyried prynu sgwter symudedd, bydd rhaid i chi hefyd ystyried sut i’w storio a’i wefru cyn prynu. Dim ond rampiau i gadeiriau olwyn sydd wedi’u cyflwyno gan weithwyr iechyd proffesiynol y gallwn ni eu cynnig, ac nid ydym yn gallu storio na gwefru sgwters.

Sut i gael help

Bydd rhaid i ni gynnal asesiad er mewn darganfod yn union beth yw eich anghenion. 

Gallwn wneud hyn ar-lein neu yn eich cartref a gall ffrind neu aelod o’r teulu fod gyda chi i’ch helpu.

Gweler ein manylion cyswllt ar yr ochr dde.

Beth rydym yn gwneud?

Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Gogledd Orllewin Cymru, sy’n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd, i wthio trefniadau partneriaeth yn eu blaenau yng nghyswllt y gwasanaeth hwn. Y rhain yw amcanion y cydweithrediad hwn:

  • darparu gwasanaeth cyfarpar cymunedol ac integredig sy’n bodloni gofynion ymarfer da fel y gwelir hwnnw yn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
  • darparu un pwynt cyswllt i osgoi dyblygu ac i osgoi pob rhwystr darpariaeth i’r defnyddwyr a’r ymarferwyr
  • cwrdd â safonau a dangosyddion lleol a chenedlaethol, ac yn arbennig ddarparu canran uchel o’r cyfarpar angenrheidiol ac o’r mân addasiadau cyn pen 7 niwrnod gwaith
  • cefnogi Gofal Canolraddol, Gofal Lliniarol a chynlluniau rhyddhau o’r ysbyty a datblygu rhagor ar y cyd-drefniadau
  • datblygu gwasanaethau sy’n fwy cyfleus, a sefydlu meini prawf cymhwyster sy’n gyson ar draws Gogledd-orllewin Cymru
  • parhau gyda’r gwaith o ailgylchu, glanhau a chynnal cyfarpar, a chwrdd â safonau cenedlaethol
  • darparu cyfleusterau asesu, dangos ac arddangos i ddefnyddwyr gwasanaeth ac i ymarferwyr iechyd a rhai Gwasanaethau Cymdeithasol
  • darparu gwybodaeth am lu o anableddau gan gynnwys datblygiadau newydd yn y maes Teleofal a Thechnoleg Gynorthwyol

Dan y bartneriaeth hon rydym wedi gwneud cytundeb ffurfiol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu cyfarpar cymunedol. Ym Mryn y Neuadd, Llanfairfechan y mae’r brif storfa a cheir cefnogaeth storfa lai a chyfleusterau dangos ac asesu yng Nghanolfan Byron, Mona.

Mae’r dull partneriaeth o weithio rhwng 3 Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd wedi creu cyfle i hyrwyddo gweithio ar y cyd a hybu dealltwriaeth o’r gwahanol swyddogaethau ac o’r amryfal gyfrifoldebau. Fodd bynnag bydd y gwaith integreiddio’n parhau gan fod cyfarpar cymunedol yn elfen hanfodol yn y gwasanaeth o ran dylunio dull diogel o ddarparu pecyn gofal i hyrwyddo byw’n annibynnol yn y gymuned a gadael yr ysbyty.