Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canolfannau hamdden: gwybodaeth er eich diogelwch


Rydym yn gallu parhau i gefnogi eich taith iechyd a ffitrwydd. 

Gweler y wybodaeth isod a gwyliwch ein fideo.

Mae angen trefnu pob gweithgaredd ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r system archebu ar-lein.

Bydd angen i chi gofrestru cyfrif ar-lein cyn gallu archebu'ch gweithgareddau ymlaen llaw

Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio ein system archebu ar-lein, e-bostiwch monactif@ynysmon.llyw.cymru

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir er mwyn creu amgylchedd diogel i chi allu ymweld ag ef ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.

Bydd gan bawb ran i’w chwarae er mwyn cadw ein canolfannau yn ddiogel a byddwn yn gofyn i chi gadw at reolau penodol hefyd. Sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch chi yw’r brif flaenoriaeth. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno gweithdrefnau glanhau a chadw pellter cymdeithasol newydd.

Glanhau, glanweithdra a diheintio

Byddwn yn diheintio’r offer yn y gampfa drwy gydol y dydd, byddwn yn glanhau ystafelloedd newid y pwll nofio ar ôl pob sesiwn ac yn glanhau’r ganolfan gyfan bob nos. Mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant glanhau. Bydd Aelodau yn cael eu hannog i ddiheintio eu dwylo wrth y dderbynfa, mae unedau diheintio dwylo ychwanegol wedi eu gosod mewn mannau allweddol a bydd gorsafoedd glanhau wedi eu lleoli o amgylch yr ystafelloedd ffitrwydd.

Cyn dod i’r Ganolfan

Arhoswch adref os ydych yn teimlo’n sâl - peidiwch â dod i’r ganolfan os nad ydych yn teimlo’n dda neu os oes gennych Covid-19.

Trefnwch eich gweithgaredd ymlaen llaw - mae angen trefnu pob gweithgaredd ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r system archebu ar-lein.

Tra byddwch chi yn y ganolfan

Defnyddio gorsafoedd diheintio dwylo - fe welwch chi’r rhain cyn i chi gyrraedd y dderbynfa ac mewn gwahanol rannau o’r ganolfan.

Cofrestrwch yn y dderbynfa os ydych yn cymryd rhan mewn dosbarth - ceisiwch beidio â chyrraedd fwy na 5 munud yn gynnar a dilynwch y rheolau cadw pellter cymdeithasol pan fyddwch yn disgwyl i’r dosbarth ddechrau. Dylech gael eich cerdyn aelodaeth yn barod i’w sganio wrth fynd i mewn i’r ganolfan. Pan fydd eich sesiwn drosodd dylech adael y ganolfan cyn gynted â phosib drwy’r allanfeydd penodol.

Golchwch eich offer a’ch matiau - gallwch wneud hyn cyn ac ar ôl eu defnyddio gyda’r cynnyrch sydd wedi’i ddarparu o amgylch y gampfa.

Gallai methu â chadw at y canllawiau newydd e.e. cadw pellter cymdeithasol, arwain at eich aelodaeth yn cael ei wahardd.

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn sicrhau diogelwch ein canolfannau hamdden.

Rydym wedi paratoi rhestr o atebion i gwestiynau a allai fod gennych. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch anfon neges e-bost monactif@ynsymon.gov.uk

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.