O dan y Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 mae angen i’r Cyngor gynnal tair cofrestr gyhoeddus ynglŷn â hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal hon.
Diben y cofrestrau yw cynyddu gwybodaeth ymhlith perchnogion tir a’r cyhoedd am faterion:
- a allai arwain at newidiadau i’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus
- osgoi dyblygu pan fo mwy nag un person efallai yn ystyried gwneud cais i’r awdurdod lleol am yr un newid i’r map a’r datganiad swyddogol
- cynyddu sicrwydd ynghylch pa lwybrau neu ffyrdd y mae perchnogion tir yn bwriadu eu cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus
- cynorthwyo awdurdodau lleol i reoli swyddogaethau o ran hawliau tramwy cyhoeddus
Trefnir y cofrestrau yn ôl ardal cyngor cymuned / tref, yna’r dyddiad pryd dderbyniwyd y cais neu ddatganiad.
Map rhyngweithiol
I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch y map hawliau tramwy cyhoeddus.
Map hawliau tramwy cyhoeddus