Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Beth yw niwsans statudol?


Mae Adran 79 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn diffinio’r materion isod fel niwsans statudol:

  • unrhyw eiddo sydd yn y fath gyflwr ei fod yn andwyol i iechyd neu’n achosi niwsans
  • mwg sy’n dod o eiddo fel ei fod yn andwyol i iechyd neu’n achosi niwsans
  • mygdarth neu nwyon o eiddo sy’n andwyol i iechyd neu sy’n achosi niwsans
  • unrhyw lwch, stem, arogl neu ddrewdod arall sy’n dod o adeilad diwydiannol, masnach neu fusnes ac sy’n andwyol i iechyd neu’n achosi niwsans
  • unrhyw beth sydd wedi casglu neu sydd wedi ei adael sy’n andwyol i iechyd neu’n achosi niwsans
  • unrhyw anifail a gedwir yn y fath le neu fodd sy’n andwyol i iechyd neu’n achosi niwsans
  • unrhyw fater arall y mae’r Ddeddf yn dweud ei fod yn niwsans statudol

Beth a ddywed y gyfraith?

Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn rhoi grym i’r Cyngor neu ddeilydd eiddo gymryd camau yn achos niwsans statudol.

Os yw’r Cyngor yn fodlon bod niwsans statudol yn bodoli, neu’n debygol o ddigwydd neu ailddigwydd, cyflwynir Rhybudd Cyfreithiol dan Adran 80 sy’n dweud bod rhaid i’r niwsans ddod i ben.  Rhaid i’r Cyngor bennu amser penodol a bydd rhaid i’r niwsans ddod i ben erbyn hynny, a gall hefyd roi manylion am unrhyw waith sydd angen ei wneud i atal y niwsans.  Gall y person y cyflwynir rhybudd iddo apelio i’r Llys Ynadon cyn pen 21 diwrnod.

Fel arall, mae Adran 82 yn caniatáu i ddeiliaid yr eiddo gwyno’n uniongyrchol i’r Llys Ynadon, heb ddwyn y Cyngor i mewn, a:

a)  Os yw’r Ynadon yn fodlon bod y niwsans honedig yn bodoli, byddant yn gwneud Gorchymyn yn dweud bod rhaid i’r diffynnydd dod â’r niwsans i ben o fewn cyfnod penodol o amser, a

b)  Os yw’n briodol, gwneud y Gorchymyn yn gwahardd y niwsans rhag ailddigwydd.

Yn y ddau achos, dylid cymryd camau yn erbyn y sawl sy’n achosi’r niwsans, neu onid oes modd dod o hyd i’r person hwnnw, gellir cymryd camau yn erbyn perchennog neu ddeiliaid yr eiddo sy’n achosi y niwsans.

Oni chydymffurfir gyda Rhybudd Atal neu Orchymyn gan y Llys Ynadon, bydd unrhyw dor-amod pellach yn drosedd a gall olygu dirwy.