Os, ar ôl eich sgwrs, bydd y niwsans yn parhau, dylech ysgrifennu at y sawl sy’n gyfrifol am achosi’r niwsans gan ddweud eich bod yn ystyried ei fod yn gyfrifol am greu niwsans ac na fydd gennych, oni bai y bydd yn rhoi gorau iddi, ddim opsiwn ond cyflwyno cwyn i’r awdurdod lleol neu’n uniongyrchol i’r Llys Ynadon.
Os yw niwsans statudol yn cael effaith ar sawl aelwyd, efallai y byddai o fudd i aelod o bob aelwyd arwyddo’r llythyr. Fel arall, dylai pob aelwyd ystyried ysgrifennu ar wahân. Er nad oes rhaid i chi gymryd y camau uchod yn ôl y gyfraith, mae’n debygol o gryfhau eich achos os gellwch ddangos eich bod wedi ymddwyn yn rhesymol ac wedi rhoi cyfle i’r sawl sy’n gyfrifol am y niwsans gywiro’r sefyllfa cyn i chi droi at gamau cyfreithiol. Ni ddylid anfon llythyrau dienw nac ymosodol oherwydd eu bod yn debygol o lesteirio eich achos yn hytrach na’i gynorthwyo.