I gael y diweddariadau diweddaraf, edrychwch ar ein tudalen wybodaeth COVID-19.
Gwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd yw Teulu Môn.
Gwasanaeth sy’n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Plant, Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol er mwyn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â Phlant, a theuluoedd sydd â phlant, rhwng 0-25 oed.
Rydym yn rhan o Wasanaethau Plant Ynys Môn a gallwn roi cymorth i chi os ydych:
- Yn chwilio am ofal plant neu’n meddwl dechrau gweithio fel gofalwr plant proffesiynol.
- Eisiau gwybodaeth am weithgareddau i blant a/neu grwpiau cymorth lleol yn yr ardal.
- Angen cyngor ar sut i helpu teulu sydd angen cefnogaeth ychwanegol, oherwydd bod teulu wedi chwalu, pryderon yn ymwneud â thai, problemau ariannol neu brofedigaeth.
- Eisiau cymorth ar gyfer teulu sy’n wynebu problemau yn yr ysgol, oherwydd anabledd yn y teulu, beichiogrwydd yn yr arddegau, cam-drin alcohol a
- chyffuriau.
- Eisiau siarad am bryder sydd gennych am lesiant neu niwed posibl i blentyn.
Rydym yn angerddol dros uno asiantaethau i gefnogi teuluoedd drwy sicrhau bod pob plentyn a theulu’n gallu cael mynediad rhwydd at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth mor fuan â phosib.
Felly os ydych yn rhiant, yn aelod o’r teulu, yn gymydog neu’n weithiwr proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth - rydym yma i’ch cefnogi i ganfod yr ateb gorau i’ch ymholiad.
Mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni:
Ymweld â ni yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni rhwng 8:45am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener. Gofynnwch am Teulu Môn
Ffoniwch ni ar 01248 725888 rhwng 8:45am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener. Gofynnwch am Teulu Môn
Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar facebook lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau estyn allan yn y gymuned sydd ar y gweill.