Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ymgyrch farchnata am dai cymdeithasol


Rydym yn cynnal ymgyrch farchnata i annog ymgeiswyr i wneud cais am dai cymdeithasol yn Ynys Môn.

Wrth feddwl am Dai Cymdeithasol a’r ‘Rhestr Aros’ ofnadwy, yr hyn a ddaw i’r meddwl yw’r penawdau cenedlaethol niferus...

  • ‘Mwy na miliwn ar y rhestr aros am dai cymdeithasol’
  • ‘Mae ffigyrau’n dangos fod dros 100,000 o deuluoedd yn disgwyl am fwy nadegawd am dai cymdeithasol’

Oherwydd y penawdau hyn, mae llai a llaio bobl wedi bod yn ymgeisio am Dai Cymdeithasol yn Ynys Môn.

Mae pobl yn credu’n gyffredinol ‘nad oespwynt ymgeisio, byddaf yn disgwyl ambyth’. Nid yw hyn yn wir o angenrheidrwydd, yn enwedig os ydychyn fodlon ystyried mwy nag un ardal a gwahanol fathau o eiddo.

Rydym yn awyddus i glywed gan y ddau grŵp isod o bobl a allai fod yn gymwys am dai cymdeithasol ac sydd efallai yn meddwl na fyddent yn gymwys i gael eu cynnwys ar y gofrestr:

  • pobl sy’n byw mewn Llety Rhent Preifatyn Ynys Môn ac sydd â chysylltiad lleol 5 mlynedd neu fwy â’r ynys
  • pobl 55 oed neu hŷn sydd â diddordeb mewn cartrefi sydd wedi eu neilltuo’n benodol ar gyfer pobl hŷn ac sydd â chysylltiad lleol 5 mlynedd neu fwy â’r ynys

Os ydych chi’n cefnogi unrhyw un sydd âdiddordeb ymgeisio am Dai Cymdeithasol, anogwch nhw os gwelwchyn dda i gychwyn y broses drwy ffonio ein Tîm Gwasanaeth Cwsmer ar 01248 7522 00 / adrantai@ynysmon.llyw.cymru

Mae’n bwysig nodi nad oes gennym dai yn sefyll yn wag. Nod yr ymgyrchyw sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’u hopsiynau yn y sector Tai Cymdeithasol.

housing-partners-logos