O’r 1af Ebrill 2017 mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100% o’r gyfradd safonol treth gyngor ar dai gwag tymor hir ac ail gartrefi.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol i weithredu premiwm ar Dreth y Cyngor ar gyfer eiddo ac eiddo Gwag Hirdymor, sy’n cael eu dodrefnu ond nid yn cael eu meddiannu yn barhaol (a elwir yn aml fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau).
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi penderfynu cyflwyno premiwm Treth y Cyngor 25%, yn effeithiol o 1 Ebrill 2017 ar gyfer eiddo a ddynodwyd fel cartrefi gwyliau / ail gartrefi neu dymor hir gwag ac nid yn cael eu defnyddio fel unig neu brif breswylfa rhywun.
O’r 1 Ebrill 2019, mae’r Cyngor wedi penderfynu codi premiwm o 100% sy’n ychwanegol i’r Dreth Gyngor lawn a godir h.y. 200% mewn perthynas ag eiddo gwag hirdymor ac i godi premiwm o 35% sy’n ychwanegol i’r Dreth Gyngor lawn a godir h.y. 135% mewn perthynas ag ail gartref.
Bwriad y disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol i godi premiwm yw i fod yn offeryn i helpu awdurdodau lleol i:
- ddod â chartrefi gwag tymor hir yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy; ac
- cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol