Mae’n bosib bod eich plentyn yn gymwys i ginio ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
- Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm yr ydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau
Gwneud cais
Gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.