Rydym erbyn hyn wedi derbyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch trefniadau trafnidiaeth ysgol o fis Medi 2020 ymlaen, ac mewn sefyllfa i gyhoeddi tocynnau bws ar gyfer rhai gwasanaethau. Er mwyn prynu tocyn bws fe fydd angen llenwi’r ffurflen isod.
Noder na allwn werthu tocynnau ar gyfer bysiau gwasanaeth ar hyn o bryd oherwydd prinder argaeledd ond byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd.
Noder y dylech ond llenwi’r ffurflen ar gyfer prynu tocyn bws:
- os ydych yn rhiant i ddisgybl ysgol uwchradd ac mae’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol addas agosaf yn llai na 3 milltir
- os ydych yn rhiant i ddisgybl sy’n mynychu ysgol all-ddalgylch oherwydd dewis rhieniol
- os ydych yn rhiant i ddisgybl sy’n 16+ ac felly nid ydynt yn gymwys am drafnidiaeth am ddim
Nid oes angen i rieni disgyblion sydd o oedran ysgol gorfodol sy’n byw 3 milltir neu fwy oddi wrth yr ysgol addas agosaf ac sydd felly’n gymwys am drafnidiaeth am ddim wneud cais.
Cais am docyn bws 2020 / 2021
Mae croeso i chi hefyd gysylltu â'r Adran Trafnidiaeth ar 01248 752456 a fydd yn gallu eich cynorthwyo i lenwi’r ffurflen, os oes angen.
Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw ymholiad dros e-bost at: AddysgEducation@ynysmon.gov.uk
Mae’r Côd Ymddygiad Wrth Deithio ar gyfer Cymru gyfan yn cyngori ar sut y dylai dysgwyr ymddwyn i gael taith ddiogel i ac o'r ysgol ar fws ysgol.