Pwrpas olrhain cysylltiadau yw amddiffyn iechyd cyhoedd Cymru a rheoli lledaeniad y firws. Mae olrhain cysylltiadau bellach yn rhan hanfodol o’r strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
Ers dechrau Gorffennaf, mae olrhain cysylltiadau wedi bod ar waith ar draws Gymru, a bydd angen cynnal hyn ar lefel arwyddocaol, o bosib am y flwyddyn nesaf neu tan y darganfyddir brechiad.
Mae gwybodaeth am ble mae'r sawl sydd wedi profi'n bositif wedi bod mewn cysylltiad ag eraill yn hanfodol. Mae angen gwybodaeth ar y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ynglŷn â lle mae’r unigolyn wedi bod, a phwy sydd wedi bod mewn cyswllt gyda nhw. At y diben hwn, mae disgwyl i rai busnesau gasglu a chadw gwybodaeth ynglŷn â phwy sydd wedi bod ar y fangre a phryd am 21 diwrnod. Golyga hyn bod rhaid i weithredwyr trafnidiaeth ysgol ymdrin â manylion personol y disgyblion sy’n teithio gyda nhw ar ran y Cyngor ac ysgolion er mwyn olrhain cysylltiadau.
Bob tro y mae disgyblion yn dod ar drafnidiaeth ysgol, bydd y gyrrwr yn ticio cofrestr a baratoir o flaen llaw o ddisgyblion sydd ar y bws, bws mini neu’r tacsi penodol hwnnw er mwyn cadarnhau pwy sydd ar bob taith. Bydd y gofrestr yn cynnwys enwau llawn disgyblion a pha flwyddyn ysgol y maent ynddi ar gyfer bob taith unigol (bydd y gofrestr hefyd yn cynnwys dyddiad ac amser y daith) fel y gellir eu hadnabod os oes angen ymgymryd ag olrhain cysylltiadau.
Bydd y gweithredwr trafnidiaeth yna’n rhannu’r cofrestrau cyflawn gyda’r Cyngor yn ddiogel. Bydd y Cyngor ac ysgolion yn gallu rhannu manylion cyswllt disgyblion (megis rhifau ffôn disgyblion/rhieni/gofalwyr) gyda’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu’r GIG os yw’r angen am hynny yn codi.
Dim ond os codir achosion o’r coronafeirws (h.y. mwy nag un achos newydd o’r coronafeirws) sy’n cael eu holrhain i fangre benodol y bydd manylion disgyblion yn cael eu defnyddio. Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru’n defnyddio’r wybodaeth hon i weld a allai disgyblion fod wedi cael eu hamlygu ar gludiant i'r ysgol.
Bydd gwybodaeth bersonol a gesglir wrth deithio ar drafnidiaeth ysgol yn cael ei phrosesu yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a dim ond at ddibenion olrhain cysylltiadau y bydd yn cael ei chasglu.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 21 diwrnod o ddyddiad pob taith unigol. Ar ôl 21 diwrnod, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei gwaredu’n ddiogel neu ei dileu o unrhyw systemau a ddefnyddir gan y gweithredwr trafnidiaeth a’r Cyngor.
Gofynnwn i rieni a gofalwyr helpu i gyfleu i ddisgyblion bwysigrwydd cefnogi'r gyrrwr i gadarnhau eu bod ar daith benodol, a gofynnwn iddynt beidio â symud tuag at eu sedd nes eu bod wedi cadarnhau gyda'r gyrrwr eu bod yn bresennol.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag olrhain cysylltiadau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru