Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Llywodraethwyr ysgol – rolau a chyfrifoldebau


Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol. Mae Cyrff Llywodraethu yn cynnwys pobl leol ac yn cynnwys rhieni, pobl a benodir gan yr Awdurdod Lleol, athrawon, staff, y pennaeth, a gall gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a chynrychiolwyr yr eglwys. Bydd y nifer o aelodau yn dibynnu ar faint yr ysgol.

Mae gan y corff llywodraethu gyfrifoldeb cyffredinol am reolaeth strategol, sy’n golygu:

  • gosod nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol
  • mabwysiadu polisïau i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny
  • gosod targedau i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny
  • adolygu’r cynnydd tuag at gyflawni’r nodau a’r amcanion 

Mae gan gyrff llywodraethu ystod o ddyletswyddau a phwerau mewn deddfwriaeth:

  • arwain yr ysgol gyda golwg ar hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad
  • gosod targedau ysgol priodol ar gyfer cyflawniad addysgol yng Nghyfnod Allweddol 2, 3 a 4
  • cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros gynnal yr ysgol – yn ymarferol, mae hyn yn golygu creu polisïau a sut, mewn termau strategol eang, y dylid rhedeg yr ysgol
  • rheoli cyllideb yr ysgol, gan gynnwys pennu'r staff cyflenwi a gwneud penderfyniadau ar gyflogau staff yn unol â'r ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (STPCD)
  • sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol yn gytbwys ac yn eang ac yn arbennig bod y cwricwlwm cenedlaethol ac addysg grefyddol yn cael eu haddysgu
  • darparu adroddiad i rieni bob blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol a chanlyniadau arholiadau
  • penodi’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth (gyda chyngor gan yr ALl ac yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr Esgobaeth) a staff eraill, a rheoleiddio ymddygiad a disgyblaeth staff a
  • llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolwg gan Estyn 

Mae gan Lywodraeth Cymru gryn dipyn o wybodaeth ar holl agweddau llywodraethiant ysgolion.