Dyddiad cau 23:59 ddydd Llun 1 Chwefror, 2021.
Rhoddir gwybod i rieni am y canlyniad dros e-bost ar 16 Ebrill, 2021. Sicrhewch fod gennych fynediad at y cyfrif e-bost hwn ar y dyddiad yma.
Nodwch os gwelwch yn dda na fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu trafod argaeledd lleoedd na chanlyniad posibl unrhyw gais.
Rydym yn cynghori rhieni i ddarllen y llawlyfr ‘Gwybodaeth i Rieni’ isod cyn gwneud cais.
Mae'r cais hwn yn berthnasol i blant a anwyd rhwng 01/09/2017 - 31/08/2018.
Byddwch yn ymwybodol nad oes dosbarth meithrin yn yr ysgolion canlynol.
- Ysgol Corn Hir
- Ysgol Llandegfan
- Ysgol Talwrn
Bydd angen i chi gysylltu â chylch meithrin yr ysgol.
I wneud cais am fynediad i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag Awdurdod Lleol yr ysgol.
I wneud cais am y gwasanaeth, cofrestrwch gyda'r porth ar-lein a chwblhewch y ffurflen ar-lein isod.
Gwneud cais
Sut mae cofrestru ar y porth ar-lein?
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost i greu cyfrif diogel i gofrestru gyda Fy Nghyfrif. Bydd angen i chi hefyd gytuno gyda’n telerau ac amodau, sy’n rhoi caniatâd i ddal a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau preifatrwydd a diogelu data.
Nodyn pwysig: Wrth gofrestru i ddefnyddio’r porth am y tro cyntaf, gofynnir i chi fynd i’ch cyfrif e-bost, agor yr e-bost y byddwn ni wedi’i anfon atoch chi a chlicio ar y ddolen i actifadu’ch cyfrif. Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i borth Fy Nghyfrif neu ddefnyddio’r ffurflenni heb actifadu’ch cyfrif o’r ddolen yn yr e-bost.
Os nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi derbyn e-bost, edrychwch yn eich ffolder Spam. Gallwn wirio a gweithredu’r cyfrif os oes angen, rhowch wybod i ni os yw hyn yn rhywbeth yr ydych am i ni ei wneud.