Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Annog trigolion Môn i ddilyn canllawiau’r “cyfnod clo byr”

Wedi'i bostio ar 23 Hydref 2020

Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth i’r cyfnod clo byr ddod i rym am 6:00pm heddiw (dydd Gwener, 23 Hydref).

Mae’r Ynys wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion positif – gyda 86 achos yn ystod y saith diwrnod diwethaf yn unig – a gyda’r Ynys bellach â lefel llawer uwch na’r trothwy o 50 ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth. Bellach, mae gan Ynys Môn 122.8 achos ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth.

Dywedodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Môn, “Mae nifer yr achosion o’r Coronafeirws wedi cynyddu’n sylweddol ar Ynys Môn a ledled Cymru dros y dyddiau diwethaf a bydd y cyfnod clo byr hwn yn ein helpu ni i atal y patrwm hwn sy’n destun pryder.”

“Er mwyn i’r cyfnod hwn gael effaith positif, rhaid i bobl Môn barhau i wneud yr hyn sy’n iawn a dilyn y canllawiau hollbwysig gan Lywodraeth Cymru.”

“Bydd dilyn y cyfyngiadau hyn – aros adref a pheidio â chymysgu â theulu a ffrindiau – yn anodd i bob un ohonom ond bydd yn helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws ledled Cymru. Dyma mae pawb am ei weld a’r hyn mae pawb yn ei haeddu.”

Ychwanegodd, “Bydd gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu heffeithio arnynt yn ystod y cyfnod clo byr hwn ond rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau gwasanaethau rheng-flaen ar gyfer y rhai mwyaf bregus o fewn cymdeithas yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau’r Cyngor Sir yn ystod y cyfnod clo byr (23 Hydref – 9 Tachwedd) ar gael yma: www.ynysmon.gov.uk/cyfnodclobyrcovid

Mae atebion i Gwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru i’w gweld yma: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae’r ffigyrau Coronafeirws diweddaraf ar yr Ynys yn destun pryder heb os.”

“Hoffwn ddiolch i bobl Ynys Môn am eu hymdrechion dros y misoedd diwethaf. Ond, rydym bellach yn wynebu cyfnod clo arall a rhaid i ni barhau i ddilyn y canllawiau hollbwysig a dangos y ddisgyblaeth sydd ei hangen er mwyn ein cael ni drwy gyfnod anodd arall.”

“Bydd y Cyngor Sir yn parhau i weithio efo Medrwn Môn, Menter Môn a phartneriaid allweddol eraill er mwyn sicrhau cefnogaeth ar gyfer trigolion sydd mewn angen yn ystod y cyfnod hwn o bythefnos o gyfnod clo byr.”

Ychwanegodd, “Mi fuaswn yn eich annog chi gyd i ddilyn y canllawiau sydd yn eu lle, i gadw’n ddiogel ac i edrych ar ôl eich teuluoedd, eich ffrindiau a’ch cymunedau.”

Bydd yr uned brofi Coronafeirws yn parhau yn Llangefni dros y penwythnos (10am – 4pm) ond o ddydd Llun ymlaen (26 Hydref) rhaid i drigolion lleol un ai drefnu prawf ar-lein: https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/testing-and-tracing/get-a-test-to-check-if-you-have-coronavirus/ neu drwy ffonio 119 cyn mynychu.

Bydd y safle cynnal profion symudol yn cael ei gynnal gan Mitie ar ran Deloittes o ddydd Llun ymlaen. Bydd y ddarpariaeth cynnal profion yn parhau yn Llangefni am bythefnos arall.

Mae’r ganolfan brofi wedi ei lleoli ym maes parcio Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni a gellir cael mynediad iddi drwy Ffordd y Stad Ddiwydiannol yn Llangefni (gyferbyn ag ATS Euromaster, LL77 7JA).

PWYSIG: OS BYDDWCH YN MYND AM BRAWF, RHAID I BAWB YN EICH CARTREF HUNANYNYSU AR UNWAITH TAN Y BYDDWCH YN CAEL CANLYNIADAU’R PRAWF YN ÔL.

Diwedd 23.10.20


Wedi'i bostio ar 23 Hydref 2020