Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Annog twristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 21 Mawrth 2020

Wrth gyfrannu £310m y flwyddyn a chynnal 4,000 o swyddi, mae twristiaeth yn un o brif sylfeini economi Ynys Môn.

Ond heddiw (Dydd Sadwrn, Mawrth 21ain), mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, wedi annog twristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o'r Ynys hyd nes bod yr argyfwng Coronafeirws drosodd.

Mae’n hanfodol bod pawb yn dilyn canllawiau Llywodraeth y DU a Chymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn perthynas ag arwahanrwydd cymdeithasol a chwtogi ar deithio oni bai am deithio hanfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cyfleu’r fath neges, ond yn ystod amser mor gythryblus, does dim dewis heblaw annog ymwelwyr a thwristiaid, gan gynnwys y rhai sy’n berchen ar ail gartrefi, i gadw draw o’r Ynys - a hynny ar unwaith. Mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan, ac i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng cenedlaethol yma.”

Apeliodd hefyd ar y diwydiant twristiaeth i helpu i leihau cyswllt cymdeithasol a galwodd ar barciau carafanau a busnesau Gwely a Brecwast i gau er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd a lleihau'r pwysau ar wasanaethau lleol a'r Gwasanaeth Iechyd.

Ychwanegodd y Cyng Medi, “Yn ddiweddar, rydym wedi gweld mewnlifiad o ymwelwyr yn dod i aros mewn carafanau neu ail gartrefi ar Ynys Môn. Heb os, byddant yn rhoi straen ychwanegol aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys ein Gwasanaethau Iechyd, sydd eisoes dan bwysau mawr. Dylen nhw ystyried goblygiadau'r hyn maent yn ei wneud ar bobl Ynys Môn.” 

Gyda chyfyngiadau cynyddol yn gysylltiedig â'r clefyd yn cael effaith sylweddol ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, gofynnodd y Cyng Medi hefyd i Lywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru i ddarparu cymaint o gefnogaeth â phosib ar gyfer y sector yma a phob busnes arall er mwyn eu helpu trwy'r wythnosau a'r misoedd nesaf.

Ychwanegodd y deilydd portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu’r Economi ar gyfer Ynys Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Rydym yn ymwybodol iawn o’r effaith mawr y mae lledaeniad y clefyd yma’n ei gael ar hyd a lled y wlad yn ogystal ag ar sector twristiaeth a lletygarwch yr Ynys.”

“Hoffwn sicrhau ein cymunedau ein bod yn gwneud popeth posib i geisio lleihau lledaeniad y Coronafeirws yma ar Ynys Môn. Unwaith y bydd hyn drosodd, edrychwn ymlaen yn eiddgar i groesawu ymwelwyr yn ôl, gan fod twristiaeth yn rhan mor allweddol o'n heconomi.”

Gellir gweld diweddariadau am wasanaethau'r Cyngor yn ystod yr achosion o Coronafeirws ar ein gwefan www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws

Diwedd 21.3.20


Wedi'i bostio ar 21 Mawrth 2020