Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

AP newydd Covid-19 – lawrlwythwch yr ap er lles Ynys Môn, a'r bobl rydych chi'n gofalu amdanynt

Wedi'i bostio ar 25 Medi 2020

Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu hannog i lawrlwytho ap newydd Covid-19 y GIG er mwyn helpu i ddiogelu eu hanwyliaid yr hydref hwn.

Wedi’i lansio ddoe (Medi 24), yr ap yma ydi’r arf diweddaraf i frwydro yn erbyn y feirws. Mae’n eich helpu chi i gofnodi’r llefydd rydych chi wedi’u hymweld â nhw drwy sganio codau QR mewn siopau, tafarndai, bwytai a lleoliadau eraill.

Os ydych chi wedi bod yn rhywle lle mae posibl eich bod chi wedi dod i gysylltiad â’r feirws, byddwch yn derbyn hysbysiad gan i GIG.

Os ydych chi’n derbyn prawf Covid-19 positif, byddwch yn gallu defnyddio’r ap i roi gwybod i olrheinwyr cyswllt lle’r ydych chi wedi bod – gwybodaeth a all fod yn hanfodol i helpu i atal lledaeniad y clefyd.

Esboniodd Arweinydd y Cyngor, Llinos Medi, “Ynghyd â chadw pellter cymdeithasol, gall yr ap yma fod yn bwysig iawn yr hydref yma i helpu olrheinwyr cyswllt i ganfod pobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn gyflym. Mwyaf y defnyddwyr, mwya’r effaith.”

Ychwanegodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr y Cyngor, “Os oes gennych chi ffôn clyfar yna, os gwelwch yn dda, lawrlwythwch yr ap. Gwnewch hyn er eich lles eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau.

“Rydym ni’n mynd trwy’r argyfwng yma gyda’n gilydd a dw i’n hynod falch o’r ffordd y mae Ynys Môn wedi chwarae ei rhan yn y frwydr yn erbyn Covid-19. Daliwch ati. Cofiwch i gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo yn aml, gwisgwch fwgwd lle bo angen, a defnyddiwch yr ap yma gymaint â phosibl.”

Nodweddion eraill

Mae’r ap yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion eraill, gan gynnwys:

  • hysbysiadau os ydych chi wedi bod yn agos at ddefnyddwyr eraill sydd wedi derbyn prawf positif
  • gwybodaeth am lefel y risg yn eich ardal cod post
  • cymorth i wirio symptomau a phenderfynu a oes angen prawf arnoch chi
  • cymorth i archebu prawf
  • offeryn cyfri i’ch helpu chi gadw cyfrif os bydd arnoch chi angen hunan-ynysu

Lawrlwythwch yr ap rŵan

Mae’r ap ar gael ar Google Play (Android) a’r AppStore (Apple).

Diwedd 24.09.2020


Wedi'i bostio ar 25 Medi 2020