Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn yn chwilio am straeon a gwrthrychau sy'n gysylltiedig â Pandemig Covid-19

Wedi'i bostio ar 4 Hydref 2021

Mae Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn yn dymuno casglu straeon a gwrthrychau gan drigolion Ynys Môn er mwyn cofnodi eu profiadau o’r pandemig Covid-19.

Maent yn chwilio am straeon a gwrthrychau sydd o bwysigrwydd personol - gallai’r pethau hyn fod yn ddyddiaduron, yn llythyrau, ryseitiau, lluniau, fideos, cerddoriaeth neu waith celf.

Eglurodd Esther Roberts, Uwch Reolwr Oriel Môn, “Rydym ni yn Oriel Môn ac Archifau Ynys Môn wedi ymrwymo i gasglu, cofio a hyrwyddo’r cyfoeth o hanes sydd gan Ynys Môn.

Ychwanegodd, “Rydym yn gwahodd pobl Ynys Môn i rannu eu straeon a’u gwrthrychau â ni er mwyn i ni allu cofnodi sut beth oedd bywyd ar yr Ynys yn ystod y deunaw mis digynsail diwethaf lle gwelwyd newidiadau sylweddol.”

Mae Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn yn gofyn i drigolion ystyried:

  • pa gofnod neu wrthrych sy’n adlewyrchu eich profiad chi o’r Pandemig Covid-19 orau?
  • pa gofnod neu wrthrych fydd bob amser yn eich atgoffa o’r Pandemig Covid-19?

Dywedodd deilydd portffolio Addysg, Diwylliant, Llyfrgelloedd ac Adran Plant Ynys Môn, y Cynghorydd Meirion Jones, “Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd ac yn heriol iawn i nifer o bobl ar yr Ynys. Fodd bynnag, mae hi’n bwysig ein bod yn gallu edrych yn ôl ar y cyfnod hwn ymhen blynyddoedd i ddod a chofio’r gwahanol straeon a phrofiadau y bu ein trigolion fyw trwyddynt.”

Mae unigolion sy’n byw a/neu’n gweithio yn Ynys Môn dros y deunaw mis diwethaf yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y prosiect. Anfonwch eich cofnodion, lluniau o’ch gwrthrychau a’ch straeon at Ffion Thomas, Cydlynydd Casgliad Covid-19 (manylion Cyswllt isod).

Bydd tîm Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn yn cysylltu â’r unigolion hynny y mae eu cofnodion neu wrthrychau yn cael eu dewis a byddant yn trefnu i’w casglu neu drosglwyddo.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect ‘Profiadau’r Pandemig: Dogfennu effaith Covid-19 ar Ynys Môn’ ewch i https://www.orielmon.org/cy/amdonom-ni/newyddion

Manylion cyswllt Ffion Hâf Thomas, Cydlynydd Casgliad Covid-19: FfionThomas2@ynysmon.llyw.cymru / 07813720097.

Diwedd 4 Hydref 2021


Wedi'i bostio ar 4 Hydref 2021