Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Banc bwyd newydd wedi ei sefydlu yn Llangefni

Wedi'i bostio ar 24 Mawrth 2020

O heddiw ymlaen mi fydd banc bwyd newydd yn weithredol yn Llangefni. Mae hyn yn dilyn cynnydd yn y galw am y gwasanaeth yn dilyn y feirws COVID-19.

Mae’r banc bwyd yma yn ddatblygiad ar unwaith rhwng y Cyngor Sir, Banc Bwyd Ynys Môn, Cyngor ar Bopeth Ynys Môn (CAB) a Menter Môn.

Dywedodd Pennaeth Tai Cyngor Sir Ynys Môn, Ned Michael, “Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i nifer o bobl ym Môn. Mae’r sefyllfa Coronafeirws wedi cael effaith niweidiol ar nifer o bobl gan fod nifer o weithleoedd wedi cau yn dilyn canllawiau gan Lywodraeth y DU. Mae nifer o asiantaethau yn gweithio'n galed er mwyn cefnogi unigolion a theuluoedd sydd mewn argyfwng. Dyna pam rydym wedi penderfynu creu banc bwyd ychwanegol yn Llangefni. Bydd y banc bwyd yma yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth dosbarthu yn unig ac yn galluogi Banc Bwyd Ynys Môn i gadw mwy o gyflenwadau yn ystod yr amseroedd cythryblus hyn.”

Ers i’r achosion Coronafeirws gychwyn, mae Banc Bwyd Ynys Môn wedi derbyn rhoddion hael iawn gan fusnesau ac elusennau lleol yn ogystal â Chyngor Sir Ynys Môn. Mae’r haelioni hwn wedi galluogi'r banc bwyd i brynu gwerth miloedd o bunnoedd o gyflenwadau bwyd a deunyddiau ymolchi hanfodol.

Un elusen yn benodol sydd wedi bod yn hollbwysig ar gyfer sefydlu’r banc bwyd newydd yw Elusen Cefnogol, elsen sy’n darparu mynediad i gyllid ar gyfer grwpiau cymunedol a chyrff elusennol. Mae Elusen Cefnogol wedi yn garedig rhoi £1,000 tuag at Banc Bwyd Ynys Môn ac mae wedi bod yn rhan annatod ar gyfer sefydlu'r banc bwyd newydd yn Llangefni mewn cyfnod byr iawn.

Ychwanegodd Ned Michael, “Rydym yn hynod o ddiolchgar am yr holl roddion rydym wedi eu derbyn hyd yn hyn. Fodd bynnag, ni fydd y stoc gyfredol yn para’n hir ac mae’n hollbwysig sicrhau nad yw’r cyflenwadau yn mynd yn isel yn ystod y cyfnod hwn ”

“Byddwn yn annog pawb i gefnogi’r achos yma os medrant ac i roi’r hyn a fedrant er mwyn helpu’r rhai mewn angen. Mae Banc Bwyd Ynys Môn yn dibynnu ar eich cefnogaeth a’ch ewyllys da a gallwch chi naill ai roi arian trwy dudalen GoFundMe Menter Môn neu drwy roi cyflenwad bwyd yn un o’r mannau rhoi bwyd yn Tesco yng Nghaergybi, Co-operative yng Nghaergybi ac Amlwch, Asda yng Nghaergybi a Llangefni a Waitrose ym Mhorthaethwy.”

Mae £12 yn darparu parseli bwyd tri diwrnod i unigolion ac mae’n cynnwys eitemau fel grawnfwydydd brecwast, pasta, eitemau tun, te a choffi a byrbrydau. Gall y parseli hefyd gael eu haddasu er mwyn cwrdd ag anghenion dietegol unigolion.

Mae’r banc bwyd angen y bwydydd isod ar frys:

  • Llefrith (UHT/Bywyd Hir)
  • Coffi (Ar Unwaith)
  • Sudd Ffrwythau (Ddim o’r oergell)
  • Tatws (Tun & Tatws sydyn)
  • Pwdin reis (Tun)
  • Cwstard (Tun)
  • Tiwna (Tun)
  • Cig (Tun)
  • Jam

Mae cymorth ychwanegol wedi ei drefnu i gwrdd â’r cynnydd yn y galw ac mae’r banciau bwyd yno i gefnogi unigolion a theuluoedd sydd mewn argyfwng. Mae’r rhai sydd mewn angen yn cael eu hannog i sicrhau eu bod yn cysylltu gyda Banc Bwyd Ynys Môn er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn parseli bwyd. Rydym yn annog i unrhyw un sydd yn gorfod hunanynysu yn ystod y cyfnod yma ac sydd yn gallu fforddio prynu bwyd  i gysylltu â Linc Cymunedol Môn a gwneud cais am gefnogaeth.

Os hoffech roi arian yna dilynwch y linc tiny.cc/7qvhlz, neu i roi cyflenwad bwyd yna ewch i un o’r  mannau rhoi.

Dylai unrhyw sefydliad a fyddai eisiau rhoi bwyd ffres ac/ neu fwyd wedi’i  rewi gysylltu â’r Rheolwr Tai Cymunedol, Llinos Williams ar lwwhp@ynysmon.llyw.cymru 

Arhoswch gartra, arhoswch yn ddiogel, achubwch fywydau

DIWEDD: 24/03/2020


Wedi'i bostio ar 24 Mawrth 2020