Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau ar roi grantiau busnes i lety hunanarlwyo wedi’u diweddaru

Wedi'i bostio ar 22 Ebrill 2020

Pwysig: Mae'r canllawiau a drafodir yn y datganiad hwn wedi newid. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaru - 5 Mehefin, 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau mewn perthynas â thalu grantiau busnes i lety hunanarlwyo.

Er mwyn gallu bod yn gymwys ar gyfer y grant, rhaid i fusnesau allu bodloni’r meini prawf canlynol: 

  • Rhaid i’r llety hunanarlwyo allu cynhyrchu dwy flynedd o gyfrifon masnachu sy’n rhagflaenu’n uniongyrchol blwyddyn ariannol y busnes.
  • Rhaid i’r llety hunanarlwyo fod wedi ei osod am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20.
  • Rhaid bod y busnes llety hunanarlwyo yn brif ffynhonnell incwm y perchennog (isafswm trothwy yw 50%) 

O ganlyniad i hyn, bydd angen i Gyngor Sir Ynys Môn gael gwybodaeth bellach gan bob busnes sydd wedi cyflwyno cais am grant ar gyfer llety hunanarlwyo.

Golygai hyn na fyddwn yn gallu gwneud taliadau grant i’r busnesau hyn ar unwaith.

Bydd pob busnes unigol yn cael eu cysylltu â nhw cyn gynted â phosibl er mwyn trafod y dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen a sut i gyflwyno’r wybodaeth honno i’r Cyngor.

Rydym yn deall bod talu’r grantiau hyn yn hanfodol er mwyn cynnal busnesau lleol a byddwn yn ceisio prosesu’r grantiau busnes hynny, sy’n bodloni’r meini prawf newydd, cyn gynted â phosibl.

Rydym yn annog ymgeiswyr i gysylltu os nad ydynt wedi derbyn taliad neu ymateb o fewn pedair wythnos i gyflwyno eu ffurflen grant, dylid gwneud hynny drwy ffonio 01248 750057 a phwyso Opsiwn 1 neu drwy anfon e-bost at econdev@ynysmon.llyw.cymru

Diwedd 22.4.20

Nodiadau i Olygyddion:

Mae’r Cyngor Sir yn gweinyddu dau grant nad oes rhaid eu talu’n ôl – cysylltiedig â’r eiddo sy’n talu trethi busnes – ar ran Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Bydd y ddau grant yma’n berthnasol i fusnesau oedd ar y rhestr ardrethu ar 20 Mawrth, 2020.

Grant 1

Grant o £25,000 ar gyfer busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo gyda gwerth trethiannol o rhwng £12,001 a £51,000. Amcangyfrif y Cyngor yw bod yna 240 eiddo cymwys ar yr Ynys.

Mae’r eiddo sy’n gymwys am y rhyddhad yma yn cael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf:

  • Siopau, bwytai, caffis, sefydliadau yfed, sinemâu a lleoliadau cerddoriaeth fyw;
  • Ar gyfer ymgynnull a hamdden;
  • Gwestai ac eiddo preswyl a llety hunanarlwyo.

Bydd yr holl eiddo sy’n cyflawni’r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i’r cyllid grant.

Grant 2

Telir grant o £10,000 i’r holl fusnesau ar yr Ynys sy’n gymwys i dderbyn rhyddhad trethi busnesau bach gyda gwerth trethiannol o £12,000 neu lai. Amcangyfrifir fod hyd at 2,300 eiddo cymwys ar yr Ynys.

Bydd yr un trethdalwr ond yn derbyn grant tuag at uchafswm o ddau eiddo.

Sut telir y grantiau?

Fe’i telir i’r busnes cymwys, o ddewis drwy drosglwyddiad uniongyrchol i gyfrif banc y busnes.


Wedi'i bostio ar 22 Ebrill 2020