Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canolfannau gofal yn parhau ar agor ar draws y Sir

Wedi'i bostio ar 18 Ebrill 2020

Bydd nifer o ganolfannau gofal yn parhau i fod ar agor mewn ysgolion ar draws y Sir wedi gwyliau’r Pasg.

Bydd staff mewn 24 o ysgolion yn cynnig gofal i blant bregus a phlant y mae eu rhieni yn hanfodol i’r ymateb i Covid-19 yn unig - a dim ond os nad oes modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref.

Ceir rhestr lawn o’r canolfannau gofal sydd ar agor rhwng Ebrill 20-24 yma: https://www.ynysmon.gov.uk/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Gwybodaeth-am-ganolfannau-gofal-ysgolion.aspx

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Môn, Rhys Hughes, “Rydym yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth a’r cyd-weithio sydd i’w weld ar draws yr Ynys gan ein gweithlu ysgolion. Mae’r ymdeimlad o ‘Tîm Môn’ yn gryf iawn gyda chydweithio a chefnogaeth wych rhwng y Cyngor Sir, Penaethiaid, athrawon a’r cymorthyddion.” 

“Mae ysgolion a staff ysgol yn rhan annatod o waith i gynnal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n hanfodol i’n ffordd o fyw.” 

Mae’r Cyngor Sir hefyd eisiau sicrhau bod rhieni neu ofalwyr sydd â phlant yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn gallu hawlio’r taliadau priodol o Ebrill 27ain ymlaen. 

Mae’n ofynnol iddynt gwblhau ffurflen arlein cyn dydd Llun (Ebrill 20fed) er mwyn gallu hawlio £19.50 ar gyfer pob plentyn cymwys. Bydd y taliadau yma yn mynd yn syth i’r cyfrif banc yn wythnosol ac yn disodli’r system pecynnau cinio dyddiol.

Er mwyn hawlio, mae i angen i rieni sydd yn gymwys cwblhau’r ffurflen ar-lein www.ynysmon.gov.uk/prydau-ysgol-am-ddim-covid-19 neu ffonio’r llinell gymorth ar 01248 752 392 sy’n agored rhwng 9-5 bob dydd.

Ychwanegodd y deilydd portffolio dros Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Meirion Jones, "Mae gwaith caled ac ymroddiad staff ein hysgolion yn parhau. Mae wedi bod yn anhygoel gweld lefel y gefnogaeth a chydweithio rhwng ysgolion a byddwn yn sicrhau bod ein canolfannau gofal dal ar agor ac ar gael i’r rhai hynny sydd mewn angen, yn enwedig y rhai hynny sy’n arwain y frwydr yn erbyn Covid-19.”

“Mae staff y Cyngor Sir hefyd wedi bod yn gweithio'n ddygn er mwyn sicrhau bod trefn addas yn ei le fydd yn galluogi i rieni hawlio taliadau ar gyfer y plant hynny sydd yn deilwng i ginio am ddim. Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn parhau gyda’r drefn pecynnau bwyd i’r teuluoedd nad ydynt yn gallu derbyn taliadau uniongyrchol.”

Cysylltwch gyda’ch ysgol leol os ydych angen mynediad i’r gofal ar fyr-rybudd rhwng Dydd Llun i Ddydd Gwener 8yb-5yh.

Diwedd 18.4.20


Wedi'i bostio ar 18 Ebrill 2020