Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cydweithio parhaus yn hanfodol er mwyn ailagor ysgolion Môn

Wedi'i bostio ar 4 Mehefin 2020

Bydd Cyngor Môn yn gweithio mewn partneriaeth ag athrawon, rhieni a plant i sicrhau bod ei ysgolion yn agor yn ddiogel.

Ddoe (dydd Mercher, 3 Mehefin), cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, fanylion am y cam nesaf i ysgolion yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd i “Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi”.

Mae hyn yn cynnwys y cynigion canlynol:

  • bydd pob ysgol yn dechrau ar y cam nesaf ar 29 Mehefin gyda’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at 27 Gorffennaf
  • bydd y flwyddyn academaidd nesaf yn dechrau ym mis Medi, a’r bwriad yw ymestyn hanner tymor yr hydref i bara am bythefnos
  • bydd dull gweithredu fesul cam yn cael ei roi ar waith ym mhob ysgol ac mae disgwyl y bydd hyn yn golygu na fydd mwy na thraean o ddisgyblion yn bresennol ar unrhyw adeg

Mewn ymateb, dywedodd Rhys Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Ynys Môn: “Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion i gynllunio’r ffordd orau ymlaen i Ynys Môn, ei phlant a’i chymunedau.

“Byddwn yn rhoi ystyriaeth fanwl i nifer o faterion pwysig yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i ni geisio adfer rhyw fath o normalrwydd yn ein hysgolion cyn diwedd tymor yr haf. Fodd bynnag, rhaid i iechyd a diogelwch ein plant a’n staff gael blaenoriaeth bob amser.”

“Wrth symud ymlaen rydym yn ymwybodol iawn bod gan bob un o’n hysgolion anghenion gwahanol a’u bod yn wynebu heriau gwahanol; ac mae’n rhaid i ni barchu dymuniadau rhieni hefyd.”

Ychwanegodd, “Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, gwelwyd cydweithio gwych rhwng yr holl ysgolion a Gwasanaeth Addysg y Cyngor Sir ac rydym wedi llwyddo i oresgyn nifer o rwystrau sylweddol yn barod. 

“Rydym wedi gweithio fel un tîm ac rwy’n siŵr y bydd y cydweithio a fu mor fanteisiol i Ynys Môn a’i phlant yn parhau. Byddwn yn cynnal trafodaethau pellach gydag aelodau’r Fforymau Strategol Uwchradd a Chynradd ac rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu darparu canllawiau pellach i’n hysgolion yr wythnos nesaf.”

Mae ysgolion Ynys Môn wedi aros ar agor, ers mis Mawrth, er mwyn gofalu am y plant mwyaf anghenus yn ystod yr achos o Cononafeirws. Mae hyn wedi cynnwys darparu gofal yn ystod gwyliau ysgol ac ar benwythnosau i blant sy’n agored i niwed a phlant y mae eu rhieni yn hanfodol i’r ymateb lleol i COVID-19, ac nad oes modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones, y deilydd portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, “Bydd ailagor ein hysgolion fel lleoliadau dysgu yn creu nifer o heriau unwaith eto. Bydd rhaid i ni edrych ar reoli cyfleusterau a threfniadau logisteg, gan gynnwys defnyddio adeiladau, adnoddau, glanhau a chludiant.”

“Ein blaenoriaeth fydd sicrhau diogelwch pawb sy’n dychwelyd i ysgolion Môn a rhoi tawelwch meddwl i staff, rhieni a theuluoedd. Rwy’n sicr y bydd y gwaith caled a’r ymrwymiad a welwyd yn barod gan ein penaethiaid, athrawon a staff ysgolion yn caniatáu i ni wynebu’r heriau newydd hyn.”

“Mae’r gefnogaeth a’r cydweithio rhwng ysgolion a’r Cyngor yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel i’w weld. Rydw i’n wirioneddol ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddyd i gefnogi ysgolion, yn ogystal â  sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yr wythnos nesaf. Gellir gweld mwy o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/dod-ir-ysgol-dal-ati-i-ddysgu-paratoi-ar-gyfer-yr-haf-mis-medi 

Diwedd 4.6.20

Am ragor o fanylion: Gethin Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752130


Wedi'i bostio ar 4 Mehefin 2020