Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor ac arweiniad i gyflogwyr yr Ynys yn ystod yr argyfwng Covid-19

Wedi'i bostio ar 20 Mawrth 2020

Bydd Cyngor Ynys Môn yn darparu cyngor ac arweiniad i fusnesau ar draws yr Ynys yn ystod y cyfnod heriol ac ansicr hwn.

Bydd ein Timau Datblygiad Economaidd ac Ystadau wrth law er mwyn cefnogi ac ymateb i unrhyw ymholiadau gan fusnesau lleol gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth ac arweiniad. Cysylltwch â ni yn ddigidol neu dros y ffôn gan fod Canolfan Fusnes Ynys Môn ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd. Rydym wedi cymryd y camau hyn er mwyn sicrhau iechyd a llesiant y cyhoedd a’n staff.

Mae canllawiau swyddogol Llywodraeth y DU ar gyfer cyflogwyr a busnesau ar gael yma.

Hoffem hefyd i chi fod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cefnogi gwerth mwy na £1.4bn ar gyfer busnesau bach er mwyn eu cynorthwyo i ddelio ag effeithiau’r Coronafeirws. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio yn barhaus am ffyrdd o gefnogi busnesau nad ydynt efallai yn gymwys ar gyfer cynlluniau penodol felly parhewch i gadw llygad ar wefan Busnes Cymru.

Mae gwybodaeth am raglen rhyddhad ardethi busnes Llywodraeth Cymru, a allai helpu busnesau yn ystod yr argyfwng presennol, ar gael yma.  Rydym yn disgwyl am arweiniad pellach o ran yr hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf fel awdurdod lleol. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon unwaith y bydd manylion pellach ar gael. 

Os ydych ar hyn o bryd yn profi problemau neu os oes gennych unrhyw bryderon o ran eich gweithdrefnau busnes / cadwyn cyflenwi, cysylltwch â llinell gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000.

Er mwyn cael y wybodaeth fusnes ddiweddaraf gweler tudalen Busnes Cymru sy’n rhoi Cyngor Coronafeirws.

Gellir cysylltu â’r Tîm Datblygiad Economaidd drwy ffonio: 01248 752 435 neu anfon e-bost at datecon@ynysmon.llyw.cymru

Gellir cysylltu â’r Tîm Ystadau drwy ffonio:  01248 752245 neu gellir anfon neges e-bost at  propertyenquiries@ynysmon.llyw.cymru

Rydym yn awyddus i glywed am yr heriau y mae eich busnes yn eu hwynebu gan y gallai hyn ddylanwadu ar unrhyw gymorth a gynigir yn y dyfodol.

Gellir dod o hyd i ddiweddariadau am y sefyllfa Coronafeirws ar ein gwefan  www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws

NODWCH:

Byddwch yn derbyn eich biliau trethi busnes ar gyfer 2020/21 cyn hir. Nid yw’r biliau hyn yn adlewyrchu’r rhaglen rhyddhad trethi busnes ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau penodol mewn perthynas â COVID-19 yn ddiweddar. Y nod yw y bydd y biliau diwygiedig 2020/21 ar gyfer y busnesau hyn yn cael eu hanfon allan ddiwedd Ebrill 2020. Ni fydd unrhyw gamau adfer yn cael eu cymryd yn y cyfamser mewn perthynas â’ch trethi busnes.


Wedi'i bostio ar 20 Mawrth 2020