Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Mae cynlluniau ar waith i sicrhau y bydd diwedd y cyfnod pontio yn tarfu cyn lleied â phosibl ar borthladd Caergybi pan ddaw i ben dros nos.

Wedi'i bostio ar 1 Ionawr 2021

Disgwylir y bydd y porthladd yn dawel yn ystod diwrnodau cyntaf mis Ionawr, cyn i'r traffig brysuro yn ddiweddarach yr wythnos nesaf.

O heddiw (1 Ionawr) ymlaen, bydd gweithredwyr llongau fferi yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid sy'n cludo nwyddau i Iwerddon nodi gwybodaeth tollau wrth drefnu eu taith ac os byddant yn cyrraedd y porthladd heb wneud hynny, ni chaniateir iddynt fynd i mewn i'r porthladd.

Mae'r senario waethaf sy’n rhesymol ei thybied a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn nodi y gallai 40-70% o'r cerbydau nwyddau trwm sy'n cyrraedd porthladdoedd ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio gael eu troi i ffwrdd am beidio â chael y ddogfennaeth gywir. Disgwylir gweld y nifer mwyaf o gerbydau nwyddau trwm fydd yn cael eu troi i ffwrdd yng nghanol mis Ionawr.

Mae system wrthlif dros dro ar waith ar yr A55 i'r dwyrain rhwng Cyffordd 2 – 4. Bydd pob cerbyd nwyddau trwm a gaiff ei droi o'r porthladd yn cael ei gyfeirio yn ôl i'r system wrthlif er mwyn gadael wrth Gyffordd 4 i ymuno â'r gerbytffordd i'r gorllewin, a fydd wedi ei chadw ar gyfer cerbydau nwyddau trwm a ddargyfeiriwyd. Byddant naill ai'n cael eu dargyfeirio i safle arall ar Barc Cybi neu, os na fydd safle arall ar gael, byddant yn cael eu hanfon i ardal stacio ar yr A55 tra'u bod yn trefnu'r gwaith papur cywir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yng Ngogledd Cymru ar y cynlluniau, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn a'r cwmnïau fferïau. Bydd y cynlluniau'n cael eu hadolygu'n barhaus.

Meddai'r Gweinidog dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Fel y porthladd gyrru i mewn ac allan prysuraf ond un yn y DU, a chysylltiad hanfodol ag Iwerddon, roedd yn hollbwysig ein bod yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yng Nghaergybi er mwyn sicrhau y byddai diwedd cyfnod Pontio'r UE yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y porthladd.

“Byddwn yn monitro'r sefyllfa yn ofalus a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn yn cael gwared ar y system wrthlif dros dro. Er bod disgwyl i'r ychydig ddiwrnodau nesaf fod yn dawel, gwyddom y bydd pethau'n prysuro wrth i ni nesáu at ganol mis Ionawr.

“Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r porthladd, tref Caergybi a'r gymuned ehangach rhag unrhyw darfu posibl.

“Byddem hefyd yn annog cludwyr i sicrhau bod ganddynt y ddogfennaeth gywir er mwyn osgoi cael eu troi i ffwrdd o'r porthladd.

”Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

“Rydym yn gefnogol o'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu safle Caergybi fel un o'r prif byrth rhyngwladol a tharfu cyn lleied â phosibl ar y dref a'i thrigolion.”

“Ein blaenoriaeth o hyd, fel Cyngor Sir, yw sicrhau bod y llif traffig yn symud yn ddiogel ac yn effeithlon drwy Borthladd Caergybi, gan ddiogelu ein cymunedau lleol ar yr un pryd.”

Nodiadau i olygyddion

Mae manylion y ddogfennaeth sydd ei hangen ar gludwyr sy'n teithio i borthladdoedd yn Iwerddon ar gael yma:

https://www.revenue.ie/en/customs-traders-and-agents/customs-electronic-systems/customs-roro-service/index.aspx

Diwedd 01.01.2020


Wedi'i bostio ar 1 Ionawr 2021