Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Datganiad gan Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 19 Mawrth 2020

Mae’r byd a’i phobl yn wynebu cyfnod o argyfwng wrth i’r Coronafeirws effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Rydym yn siwr eich bod i gyd yn sylweddoli bod y sefyllfa yn newid yn ddyddiol a chyflym. Fel pob Awdurdod Lleol, mae’n rhaid i ni wrando ar gyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid yw pob penderfyniad o fewn ein pwerau ni fel Cyngor Sir Ynys Môn.

Ein prif nod fel Cyngor Sir Ynys Môn ydi diogelu’r plant a’r oedolion mwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae’r ddwy lywodraeth wedi ei wneud yn glir i ni fod disgwyl i bob Awdurdod wneud hyn.

Gyda’r neges y bydd ein hysgolion yn cau am gyfnod estynedig o ddydd Llun ymlaen, bydd rhaid ymateb i heriau enfawr dros y misoedd nesaf. Bydd rhaid i ni gydweithio ac efallai addasu’r hyn yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae’n bur debyg y bydd angen i ni weithredu ein Polisi Adleoli Brys er mwyn sicrhau bod staff y Cyngor (na fydd bellach yn eu gwaith arferol) yn gallu cyfrannu mewn mannau eraill lle bo’r angen mwyaf.

Bydd rhaid mynd ati i gydweithio’n agos iawn gyda phartneriaid mewn Llywodraeth leol, ranbarthol, cenedlaethol ac iechyd. Yn ogystal, byddwn yn adeiladu ar y berthynas glos sydd eisoes yn bodoli gyda’r trydydd sector a’r sector wirfoddol er mwyn sicrhau bod cynlluniau megis banciau bwyd yn llwyddo i gyfarch anghenion y rhai mwyaf bregus.

Heddiw (Dydd Iau, Mawrth 19eg), o 5.00yp, byddwn yn cau holl adeiladau nad ydynt yn rhai hanfodol i’r cyhoedd tan yr hysbysir fel arall. Bydd rhain yn cynnwys: 

  • Oriel Ynys Môn, Llangefni
  • Archifau Ynys Môn, Llangefni
  • Pob llyfrgell (Amlwch, Beaumaris, Benllech, Caergybi, Llangefni, Porthaethwy a Rhosneigr)
  • Pob Canolfan Hamdden (Llangefni, Amlwch, Caergybi a Porthaethwy)

Nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi’i wneud ar chwarae bach ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir. Fodd bynnag, rhaid rhoi blaenoriaeth i iechyd a llesiant ein defnyddwyr gwasanaeth a’n staff. 

Fel yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr, rydym yn falch bod cymaint o waith da wedi’i wneud yn y cefndir dros yr wythnosau diwethaf gan staff, y sector gofal, ein holl bartneriaid a chymunedau ar hyd yr Ynys.

Byddwn, fodd bynnag, yn parhau i ofyn am eich cefnogaeth, amynedd ac ewyllys da am rai misoedd eto wrth i’r sefyllfa newid.

Mae'r her felly yn un enfawr, ond, rydym yn llwyr gredu y byddwn yn cyd-dynnu fel un tîm er mwyn cyflawni ar ran ein pobl a’n cymunedau. 

Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn

Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn 

Gellir dod o hyd i ddiweddariadau am wasanaethau’r Cyngor yn ystod y Coronafeirws drwy fynd i’n gwefan www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws 

Diwedd 19.3.20


Wedi'i bostio ar 19 Mawrth 2020