Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Dechrau ail agor Canolfannau Hamdden Môn Actif yn raddol yr wythnos nesaf

Wedi'i bostio ar 7 Awst 2020

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o allu cyhoeddi y bydd Canolfannau Hamdden Amlwch, Caergybi a Phlas Arthur (Llangefni) yn ail agor i aelodau o ddydd Mawrth 11eg Awst.

Bydd Canolfan Hamdden David Hughes, Porthaethwy, yn ail agor i aelodau ddydd Llun 17eg Awst ar ôl i’r gwaith o adnewyddu’r llawr gael ei gwblhau.

Bydd ail agor ein canolfannau hamdden yn raddol yn golygu y bydd ein hystafelloedd ffitrwydd a’n dosbarthiadau ffitrwydd yn agor gyntaf. Bydd y pyllau nofio yn ail agor i aelodau ar ddydd Llun 17eg Awst ar gyfer nofio cyhoeddus a sesiynau clybiau nofio.

Bydd hefyd llai o offer ar gael yn yr ystafelloedd ffitrwydd er mwyn sicrhau bod modd cynnal pellter cymdeithasol rhwng aelodau tra bydd dosbarthiadau ffitrwydd yn cael eu symud i’r Neuadd Chwaraeon. Bydd staff yn mabwysiadu gweithdrefn lanhau newydd a bydd gofyn i gwsmeriaid lanhau’r holl offer maent wedi ei ddefnyddio. Bydd diheintydd dwylo ar gael drwy gydol y canolfannau hamdden. Bydd hefyd angen i ymwelwyr gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol caeth yn yr holl ganolfannau hamdden.

Eglurodd Gerallt Roberts, Rheolwr Masnachol Hamdden, “Sicrhau bod ein staff a’n cwsmeriaid yn cadw’n ddiogel yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r mesurau sydd eu hangen er mwyn galluogi’r canolfannau i ail agor mewn modd mor ddiogel â phosibl.

“Drwy roi cyfle cychwynnol i’n haelodau ail ddechrau gweithgareddau a gwneud ymarfer corff yn eu canolfannau hamdden lleol, byddwn yn cyfrannu’n helaeth tuag at gynnal iechyd a diogelwch ein cymunedau lleol. Hoffem ddiolch i’n haelodau am eu hamynedd a’u cefnogaeth dros y pedwar mis diwethaf ac fe edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i’n canolfannau.”

Bydd yr ystafell ffitrwydd a’r amserlen dosbarthiadau ffitrwydd yn edrych yn wahanol iawn pan fydd y canolfannau yn ail agor. Bydd angen i Aelodau drefnu eu sesiynau ffitrwydd awr a’u dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein ymlaen llaw. Bydd angen i Aelodau sy’n dymuno defnyddio’r cyfleusterau drefnu eu sesiynau ymlaen llaw ar-lein drwy ymweld â’r wefan o 9.30am 07/08/2020.

I ddechrau, er mwyn rheoli’n ddiogel y niferoedd sy’n defnyddio ein canolfannau, dim ond Aelodau Môn Actif fydd yn gallu defnyddio a threfnu defnydd o’r cyfleusterau ymlaen llawn. Byddwn yn rhoi diweddariadau ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol pan fydd y canolfannau yn ail agor i rai nad ydynt yn aelodau.

Noder: Yn anffodus, ni fydd y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn ail ddechrau am y tro.

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd, Mae ein canolfannau hamdden yn chwarae rôl hanfodol yn iechyd a llesiant ein cymunedau ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gael eu hail agor. Mae nifer o drigolion wedi gweld eisiau eu gweithgareddau hamdden arferol a’u hymarferion ffitrwydd a byddant yn falch iawn y bydd y cyfleusterau ar gael iddynt eto cyn hir. Sicrhau diogelwch pawb yw’r brif flaenoriaeth wrth gwrs felly darllenwch y canllawiau cyn i chi ddychwelyd ac edrychwn ymlaen at gael eich croesawu yn ôl yn fuan.”

Am fwy o wybodaeth ar ail agor canolfannau Hamdden gallwch:

Ymweld â Thudalen Facebook Môn Actif neu ewch i wefan y Cyngor Sir.

Diwedd 6.8.20


Wedi'i bostio ar 7 Awst 2020