Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Dim streic – casgliadau gwastraff / ailgylchu fel arfer wythnos nesaf

Wedi'i bostio ar 18 Ebrill 2019

Ni fydd gweithwyr Biffa - contractwr gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor Sir – yn mynd ar streic wythnos nesaf.

Ni cheir gweithredu diwydiannol nawr rhwng Dydd Llun, Ebrill 22ain  a Dydd Sul, Ebrill 28ain ar ôl cytundeb tâl rhwng Biffa a’i staff.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, “Rydym yn falch bod trafodaethau rhwng Biffa a chynrychiolwyr undeb wedi arwain at gytundeb ac yn ddiolchgar iddynt am adfer y sefyllfa heb effaith ar drigolion Môn. Mae’r gweithredu diwydiannol nawr wedi ei ganslo a bydd ein gwasanaethau casglu gwastraff a glanhau yn parhau fel arfer wythnos nesaf.” “Cynghorir trigolion yr Ynys i roi eu biniau a chynhwysyddion ailgylchu allan yn y man arferol erbyn 7.00yb a byddent yn cael eu casglu fel yr arfer.”

Dylid nodi y bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig Penhesgyn a Gwalchmai ar agor yn unol â’u horiau arferol. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.

Diwedd 18.4.19

Am ragor o fanylion: Gethin Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752130


Wedi'i bostio ar 18 Ebrill 2019