Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Diwrnod arbennig yn dathlu cymuned y Lluoedd Arfog

Wedi'i bostio ar 21 Mai 2019

Bydd HMS St Albans, sef llong ryfel ar ddyletswydd y DU, yn ymweld â Phorthladd Caergybi i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru.

Gyda phum system radar, chwe system sonar ac wyth o systemau arfau, ynghyd â 185 o griw, mae HMS St Albans yn un o’r llongau rhyfel mwyaf hwylus yn y byd.

Fel rhan o Ddiwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru gynhelir dydd Sadwrn, (Mai 25ain), bydd oddeutu 250 o aelodau’r cyhoedd yn mwynhau taith rad ac am ddim o amgylch y llong.

Uchafbwynt arall i’r diwrnod fydd seremoni arbennig i nodi rhoddi Rhyddfraint y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol. Bydd hyn yn cynnwys parêd trwy dref Caergybi gan aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr hefyd.

Mae gwasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol yn un o dair braich ymladd y Llynges Frenhinol. Mae’n cael ei adnabod fel y gwasanaeth mud, gan fod rhaid i’r rhai sy’n gweithio ar y llongau tanfor weithredu’n ddiarwybod i neb.

Fe wnaeth Pencampwr y Lluoedd Arfog yn Ynys Môn, y Cynghorydd Richard Dew, estyn croeso cynnes i’r cyhoedd a chymuned y lluoedd arfog.

Dywedodd, “Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn hynod falch o gael cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni ar Ynys Môn.”

“Bydd ymweliad HMS St Albans a’r Seremoni Ryddid yn ffurfio rhan bwysig o’r dathliadau yng Nghaergybi. Bydd personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn ogystal â chyn-filwyr yn siŵr o gael croeso cynnes iawn ddydd Sadwrn nesaf.”

Ychwanegodd, “Bydd y diwrnod yn gyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad am y gwaith a wneir gan y Lluoedd Arfog a’u hymroddiad parhaus i gadw ein gwlad yn ddiogel.”

Bydd Uwch Swyddog yn y Llynges Frenhinol sy’n gyfrifol am longau tanfor, yr Ôl-lyngesydd John Weale CB OBE yn mynychu’r Parêd Rhyddid ac yn archwilio’r Gard. 

Ychwanegodd, “Mae’n anrhydedd mawr i’r Gwasanaeth Llongau Tanfor dderbyn Rhyddid Ynys Môn, yn enwedig gan mai eleni yw’r flwyddyn y mae’r Llynges Frenhinol yn dathlu 50 mlynedd o’r system rwystr barhaus ar y môr (Continuous At Sea Deterrent). Gobeithiaf y bydd y penwythnos o goffâd a dathliadau yn rhoi cyfle gwych i aelodau o’r cyhoedd gwrdd â sawl aelod o’r Lluoedd Arfog. Bydd Ynys Môn yn lleoliad hyfryd i’r Parêd a bydd ein ffrigad Math 23, HMS St Albans, yn ymweld hefyd ac ar agor i ymwelwyr. Rwy’n edrych ymlaen at eich gweld i gyd yno.” 

Bydd y Seremoni Rhyddfraint yn cychwyn ar Draeth Newry am 11.00am ddydd Sadwrn, Mai 25ain, a bydd parêd trwy dref Caergybi i ddilyn. Bydd partneriaid yng nghymuned y Lluoedd Arfog hefyd yn cynnal amryw o ddigwyddiadau ar Draeth Newry yng Nghaergybi rhwng 11.00am a 5.00pm.

Bydd y rhain yn cynnwys cwrs rhwystrau gwynt, cerbyd ymladd y ‘Warrior’, Band y Royal Corps of Signals, gwahanol systemau arfau, ysbyty maes a nifer o arddangosfeydd eraill.

Noder: Mae’r holl docynnau am ddim i weld HMS St Albans bellach wedi mynd.

Diwedd 21.5.19


Wedi'i bostio ar 21 Mai 2019