Bydd gwaith werth £130,000 i uwchraddio ystafell ffitrwydd Canolfan Hamdden Plas Arthur, yn Llangefni, yn cychwyn ar Ddydd Sul, Mawrth 1af.
Bydd y buddsoddiad yn darparu rhagor o gyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf ar yr Ynys; fel rhan o raglen dreigl bu hefyd weld £200,000 yn cael ei fuddsoddi i uwchraddio ystafell ffitrwydd Canolfan Hamdden Caergybi yn 2018.
Mae’r rhai sy’n defnyddio’r gampfa wedi cael gwybod y bydd yn cau am gyfnod, ac y bydd offer newydd sbon yn eu disgwyl wrth i’r cyfleuster newydd ail-agor ar Ddydd Mawrth, 31 o Fawrth.
Daw’r gwelliannau fel rhan o gynllun trawsnewid sylweddol newydd fydd yn ysbrydoli ac yn galluogi trigolion o bob oed i gadw’n ffit ac yn iach. Maent yn cynnwys:
- Offer newydd modern cardio a chryfhau.
- Ardal ymarfer newydd pwrpasol.
- Ystafell ffitrwydd sydd yn hygyrch i bawb.
Mae’r gwelliannau wedi’u hariannu drwy £90,000 o arian cyfalaf gan y Cyngor Sir a £40,000 wedi ei ennill gan Chwaraeon Cymru.
Yn ystod y cyfnod cau, bydd aelodau debyd uniongyrchol yn cael defnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd yng Nghanolfannau Hamdden Amlwch, David Hughes, a Chaergybi.
Eglurodd y Rheolwr Masnachol Hamdden, Gerallt Roberts, “Rydym wedi bod yn gweithio ers rhai misoedd ar gynlluniau i greu ystafell ffitrwydd newydd fodern a chynhwysol ar gyfer ein cwsmeriaid. Bydd y gwaith uwchraddio yn cynnwys peiriannau ac offer ffitrwydd TechnoGym ynghyd â llawr newydd a gwaith addurno.”
“Hoffwn ymddiheuro i’n cwsmeriaid am orfod cau’r ystafell dros dro ond rwy’n siŵr y byddant yn cytuno y bydd y buddsoddiad yma mewn cyfleusterau ac offer newydd werth yr anhwylustod. Hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod yma ac edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ôl pan fyddwn yn ail-agor.”
Amcangyfrifir y bydd uwchraddio’r ystafell ffitrwydd ym Mhlas Arthur yn dod ag oddeutu 150 o aelodau newydd.
Dywedodd y deilydd portffolio Hamdden, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Mae ymarfer corff a chadw’n ffit yn hynod bwysig os ydym am gael mwynhau iechyd da a byw bywyd i’r eithaf.”
“Mae arian yn dynn mewn llywodraeth leol, felly rydym yn defnyddio ffordd synhwyrol a chost effeithiol er mwyn buddsoddi yn ein cyfleusterau hamdden. Ein nod yw darparu cyfleusterau i ysbrydoli a galluogi trigolion o bob oed a gallu i gadw’n ffit ac yn iach.”
Bydd tîm Môn Actif yn cynnig taleb i wyth dosbarth ffitrwydd yn rhad ac am ddim i bob un o aelodau debyd uniongyrchol Canolfan Hamdden Plas Arthur. Gellir casglu’r daleb o dderbynfa’r ganolfan o Ddydd Sul, Mawrth 1af.
Diwedd 31.1.20