Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Proses dyfarnu grantiau busnes - diweddariad

Wedi'i bostio ar 28 Ebrill 2020

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn prosesu ceisiadau am grantiau busnes mor gyflym â phosib ac mae dros 900 o daliadau gwerth £11.4 miliwn eisoes wedi eu gwneud.

Er mwyn sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud i fusnesau sy’n gymwys o dan amodau’r cynllun, rhaid i fanylion y ceisiadau a dderbyniwyd gael eu cyplysu â’r rhestr o eiddo cymwys. Gall hyn gymryd amser os nad yw’r manylion yn hawdd eu cyplysu ac mae hyn yn egluro pam nad yw rhai ymgeiswyr wedi derbyn eu grant hyd yma.

Mae staff y Cyngor yn gweithio’n galed er mwyn gweithio drwy’r materion hyn ac er mwyn rhyddhau mwy o grantiau bob dydd.

Mae cwestiynau hefyd wedi eu codi am sut y bydd y Cyngor yn delio â cheisiadau gan berchnogion llety hunanarlwyo a pham bod y broses yn wahanol yng Nghymru a Lloegr.

Mae Datblygiad Economaidd wedi’i ddatganoli ac o ganlyniad mae’r cynllun cefnogi busnes yn cael ei lunio gan Lywodraeth Cymru ac nid Llywodraeth y DU. Mae hyn er mwyn sicrhau bod grantiau ond yn cael eu rhoi i fusnesau dilys ac nid i berchnogion eiddo sydd wedi trosglwyddo eu heiddo o rai sy’n talu’r Dreth Gyngor i Drethi Busnes fel ffordd o osgoi talu’r premiwm ychwanegol ar ail gartrefi.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys tri maen prawf ychwanegol ar gyfer llety hunanarlwyo sef:

  • Bod y perchennog / cwmni yn darparu 2 flynedd o gyfrifon masnachu
  • Bod yn rhaid i’r eiddo fod wedi ei osod am o leiaf 140 diwrnod yn 2019/20
  • Bod yr incwm sy’n cael ei greu gan yr eiddo yn dod i fwy na 50% o incwm y perchennog / cwmni perthnasol

Fodd bynnag, mae’r disgresiwn i dalu’r grant yn un sydd gan yr awdurdod lleol ac fe ddylai fod yn seiliedig ar yr egwyddor fod y cynllun yno i helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio arnynt yn negyddol o ganlyniad i’r sefyllfa.

Er mwyn gweinyddu’r cynllun fel sydd wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru ond hefyd er mwyn gweithredu’r egwyddor o gefnogi busnesau sydd wedi eu heffeithio arnynt mewn modd negyddol, bydd y Cyngor yn gweinyddu’r cynllun yn y modd canlynol mewn perthynas â llety hunanarlwyo.

  1. Ni ofynnir i unrhyw eiddo a oedd ar y rhestr Trethi Busnes cyn cyflwyniad y premiwm ar ail gartrefi ar 1 Ebrill 2017 i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol. Derbynnir, cyn y dyddiad hwn, y bydd perchnogion yr eiddo hyn wedi bod yn rhedeg eu llety fel busnesau ac o ganlyniad bydd eu ceisiadau yn cael eu prosesu yn yr un modd ag unrhyw fusnesau eraill. Dechreuodd y Cyngor dalu’r grŵp hwn o eiddo ar 28 Ebrill 2020. 
  2. Bydd angen i unrhyw eiddo a drosglwyddodd i’r gofrestr Trethi Busnes ar ôl 1 Ebrill 2017 ddarparu tystiolaeth ychwanegol fel a nodwyd gan gynllun Llywodraeth Cymru. Pwrpas y gwiriad hwn yw er mwyn gweld pa eiddo nad ydynt yn llety hunanarlwyo dilys ac sydd wedi trosglwyddo ar draws i’r gofrestr Trethi Busnes er mwyn osgoi talu’r Dreth Gyngor.
  3. Rydym yn ymwybodol efallai na fydd rhai busnesau hunanarlwyo dilys yn pasio’r 3 maen prawf ychwanegol ac efallai y bydd y Cyngor yn dal i benderfynu talu’r grantiau yn yr achosion hyn os yw’n penderfynu bod y busnesau hynny wedi eu heffeithio arnynt mewn modd negyddol. 

Mae staff y Tîm Datblygiad Economaidd wedi dechrau cysylltu â’r busnesau perthnasol, fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl adnabod y ceisiadau mewn perthynas ag eiddo sydd wedi eu cofrestru ar gyfer trethi busnes ar ôl 1 Ebrill 2017. Os na fyddwch felly wedi derbyn unrhyw gyswllt gan y Cyngor erbyn 4 Mai 2020, ffoniwch y Cyngor ar 01248 750057 er mwyn trafod eich cais.

Mae’r Cyngor yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol y mae nifer o fusnesau ynddi ac mae’n gweithio’n galed i dalu cynifer o daliadau grant cyn gynted â phosibl.

Diwedd 28.4.20


Wedi'i bostio ar 28 Ebrill 2020