Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rhybuddio Trigolion Ynys Môn am Dwyllwyr

Wedi'i bostio ar 20 Mawrth 2020

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn i drigolion yr ynys fod yn wyliadwrus am dwyllwyr.

Daw hyn yn ystod cyfnod tyngedfennol pan ofynnwyd i bobl Ynys Môn dynnu ynghyd a chefnogi ei gilydd.

Dywedodd Emma Jones, Rheolwr Safonau Masnach Ynys Môn, “Mae gorfod rhannu’r neges hon yn fy nhristau. Yn anffodus, ar adeg pan mae pobl ar eu gwanaf, mae lleiafrif yn gweld hyn fel cyfle i fanteisio ar bobl fregus drwy gymryd arian gan unigolion gan esgus eu bod am wneud eu siopa ac yna peidio â dod yn ôl.”

“Mae hon yn broblem genedlaethol ac rydym yn gweld mwy a mwy o achosion o dwyllwyr yn targedu’r cyhoedd a sefydliadau drwy anfon negeseuon e-bost, negeseuon testun, galwadau ffôn a negeseuon WhatsApp yn cynnig cyngor a thriniaeth ar gyfer y coronafeirws, yn ogystal â sefydlu gwefannau ffug yn gwerthu cynnyrch neu’n cynnig ‘meddyginiaeth’. Mae sgamwyr wedi bod yn creu gwefannau ffug yn gofyn am gyfraniadau i helpu dioddefwyr neu’n hyrwyddo cyngor ynghylch ymwybyddiaeth ac atal yr haint. Mae galwyr digroeso wedi bod yn cysylltu â sefydliadau yn awgrymu bod rhaid iddynt roi mesurau arbennig mewn lle erbyn dyddiad penodol.”

Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae’r awdurdod yn gofyn i bawb fod yn wyliadwrus ac i ddiogelu eu hunain ac eraill rhag cael eu twyllo a dylai unrhyw un sy’n hunanynysu:

  • Ceisiwch ddefnyddio pobl yr ydych yn ymddiried ynddynt yn unig (ffrindiau, cymdogion neu deulu) i’ch helpu gyda’ch siopa os yw hynny’n bosib.
  • Peidiwch â rhoi eich llyfrau pensiwn neu fanylion eich cerdyn i unrhyw un nad oeddech yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt cyn i chi hunanynysu.
  • Peidiwch â gadael ymwelwyr nad ydych yn eu hadnabod i mewn i’ch tŷ oni bai eich bod wedi trefnu apwyntiad ymlaen llaw a’ch bod wedi sicrhau nad ydynt yn sâl.
  • Os oes angen i chi ofyn i rhywun nad ydych yn eu hadnabod yn dda eich helpu gyda’ch siopa, gofynnwch am gymaint â phosib o fanylion ganddynt ynghylch pwy ydynt, lle maen nhw’n byw, rhif cofrestru eu cerbyd ayb.
  • Os gallwch, ystyriwch siopa ar-lein neu archebu gan siop leol a thalu’n uniongyrchol ac felly dim ond danfon y nwyddau fydd angen ei wneud.

Ychwanegodd Emma Jones, “Rydym yn llwyr gefnogi’r bobl sydd wirioneddol eisiau helpu eu cymuned a byddwn yn annog y bobl hyn i gysylltu â Linc Cymunedol Môn sydd yn cydlynu rhestr o gefnogaeth gymunedol ar draws yr ynys gyfan, drwy ffonio 01248 752745.”

Os oes gennych unrhyw bryderon eich bod chi neu gymydog yn cael eich targedu gan dwyllwr, cysylltwch â thîm Safonau Masnach Ynys Môn heddiw ar 01248 750057 neu anfonwch e-bost at SafonauMasnach@ynysmon.llyw.cymru.

Bydd y newyddion diweddaraf am wasanaethau’r Cyngor yn ystod yr argyfwng Coronafeirws ar gael ar ein gwefan www.anglesey.gov.uk/coronavirus

DIWEDD: 20/03/2020





Wedi'i bostio ar 20 Mawrth 2020