Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tîm Profi, Olrhain, Diogelu yn gofyn i drigolion fod yn amyneddgar

Wedi'i bostio ar 17 Medi 2021

Wrth i achosion o’r coronafeirws gynyddu’n gyflym, mae Tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) Ynys Môn yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar os ydynt yn disgwyl galwad ffôn.

Os yw’r ffigyrau yn parhau ar y raddfa bresennol – disgwylir y bydd dros 1,000 o achosion positif ar yr Ynys ym mis Medi, sy’n llawer uwch na’r 585 a welwyd ym mis Awst. Mae’r nifer uchaf o achosion positif yn parhau i gael eu gweld yn y grŵp oedran 10 i 19 oed.

Mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar y tîm bach ond ymroddedig o staff olrhain a’r ymgynghorwyr wrth iddynt weithio i gysylltu â’r rhai hynny sydd wedi profi’n bositif a’u cysylltiadau – a darparu cyngor am hunanynysu a phrofi.

Eglurodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae Coronafeirws yn effeithio pob un ohonom mewn un ffordd neu’i gilydd. Gyda rheolau Llywodraeth Cymru wedi eu llacio, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion ar yr Ynys.”

“Mae ein tîm TTP yn parhau i gynnig cefnogaeth a chyngor i’r rhai hynny sydd wedi profi’n bositif am y Coronafeirws ac unigolion a allai fod wedi bod mewn cyswllt agos ag achos positif. Mae ein staff yn wynebu heriau sylweddol wrth geisio cysylltu â phawb cyn gynted ag y byddent yn hoffi ac mae achosion yn gorfod cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd. Gofynnwn i drigolion fod yn amyneddgar os ydynt yn disgwyl am alwad a chyngor.”

Ychwanegodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Môn, “Mae’r Coronafeirws yn dal yn fygythiad yn ein cymunedau. Mae’r cynllun brechu yn cael effaith gadarnhaol ar ba mor ddifrifol yw’r achosion ond mae Ysbyty Gwynedd yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion ar hyn o bryd. Rwy’n gofyn i bawb ateb y ffôn, i siarad â’r Swyddogion TTP, i fod yn glên ac i wrando ar eu cyngor. Bydd eu gwaith yn eich cadw chi, eich teulu, eich ffrindiau a’r gymuned yn ddiogel.”

Petai Tîm Profi, Olrhain, Diogelu Ynys Môn angen cysylltu â chi, byddant yn eich ffonio gan ddefnyddio’r rhif canlynol – 0292 1961 133 – gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb y ffôn.

Mae mwy o wybodaeth ar y rheolau hunanynysu i’w weld yma: https://llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu.

Diwedd 17 Medi 2021


Wedi'i bostio ar 17 Medi 2021