Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ychwanegu darn celf newydd i gasgliad Kyffin Williams yn Oriel Môn

Wedi'i bostio ar 4 Mawrth 2021

Mae Oriel Môn yn falch o fod wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Gelf a Chronfa Grant Prynu V&A er mwyn gallu prynu darlun hyfryd o Mrs Stanley gan un o arlunwyr mwyaf poblogaidd Cymru, Syr Kyffin Williams. 

Cafodd darlun Mrs Stanley ei baentio ym 1953, ar amser yr oedd Kyffin Williams yn sefydlu ei hun fel arlunydd proffesiynol, wedi iddo eisoes gynnal nifer o arddangosfeydd unigol a dangos ei waith mewn amrywiaeth o sioeau grŵp.

Roedd hi’n adnabod teulu’r artist ac yn 92 oed pan dynnwyd y llun. Mae’r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio gyda pheth hiwmor yn ‘Across the Straits’, hunangofioant Kyffin a gyhoeddwyd ym 1973. Ysgrifennodd, “Everyone who sat for me presented an individual problem. Mrs Stanley of Beaumaris gave me a difficult time” gan ychwanegu ”Occasionally she would stop [humming] and fix me with two wet eyes. ‘You know not the day nor the hour’ meddai. Ac yna ‘God will take you in his good time’. This made it hard for me to concentrate, and I felt like pointing out the probability that He would take her first."

Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeilad Oriel Môn, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gronfa Gelf a’r Gronfa Grant Prynu V&A am roi’r modd i ni allu prynu’r darlun godidog hwn o Mrs Stanley. Mae sicrhau bod y darlun hwn yn rhan barhaol o’n casgliad yn gyrhaeddiad go iawn ac yn un rydym yn hynod o falch ohono. Bydd pawb yn cael cyfle i weld Mrs Stanley yn ddiweddarach yn y flwyddyn a hynny fel rhan o arddangosfa arbennig yn dathlu pen-blwydd Oriel Môn yn 30 oed.”

Fel gyda’r rhan fwyaf o waith olew Kyffin, mae’n debyg y cafodd y darlun ei gwblhau mewn un eisteddiad a hynny gyda brwsh yn hytrach na chyllell balet a ddefnyddiwyd ganddo yn bennaf yn ystod cyfnod diweddarach ei yrfa. Mae’r gynfas wedi ei hail ddefnyddio ar gyfer y llun, mae llun o dirlun Llan Ffestiniog ar y cefn. Rydym yn gwybod fod Kyffin wedi aros yng ngwesty’r Abbey Arms yng nghanol y pentref yn ystod diwedd y 1940au a’r 1950au gan ei ddefnyddio fel canolbwynt ar gyfer gallu mynd i weld a phaentio’r tirluniau mynyddig cyfagos.

Mae Oriel Môn ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd oherwydd y pandemig. Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â ni drwy e-bost oriel@ynysmon.llyw.cymru. Mae casgliadau hefyd ar ein gwefan www.orielmon.org.uk a drwy ein siop ar-lein. Unwaith y bydd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi eu codi bydd Oriel Môn ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul rhwng 10:00am a 4:00pm ac mae mynediad am ddim.

 

Diwedd 4.3.21

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr
NicolaGibson@ynysmon.llyw.cymru

Nodiadau i olygyddion:

Cronfa Gelf

Y Gronfa Gelf yw’r elusen gasglu arian cenedlaethol ar gyfer celf. Mae’n darparu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn er mwyn helpu amgueddfeydd i gaffael a rhannu darnau o waith celf ar draws y DU, datblygu curaduron yn broffesiynol ac ysbrydoli mwy o bobl i ymweld ac i fwynhau rhaglenni cyhoeddus. Mewn ymateb i Covid-19 mae’r Gronfa Gelf wedi gwneud £2 filiwn o gyllid wedi’i addasu ar gael i amgueddfeydd chwaraeon drwy ailagor a thu hwnt, gan gynnwys grantiau Ymateb ac Ail Ddychmygu er mwyn helpu i fodloni’r angen uniongyrchol ac i ail ddychmygu ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Mae’r Gronfa Gelf yn cael ei hariannu’n annibynnol ac yn cael ei chefnogi gan y 159,000 o aelodau sy’n prynu’r Tocyn Celf Cenedlaethol ac sy’n mwynhau mynediad am ddim i dros 240 o amgueddfeydd, galerïau a mannau hanesyddol, 50% i ffwrdd oddi ar arddangosfeydd mawr a byddant yn cael cylchgrawn chwarterol.

Mae’r Gronfa Gelf hefyd yn cefnogi amgueddfeydd drwy ei wobr flynyddol, Amgueddfa Cronfa Gelf y Flwyddyn. Mewn rhifyn arbennig o’r wobr ar gyfer 2020, ymatebodd y Gronfa Gelf i’r heriau digynsail y mae’r holl amgueddfeydd yn eu hwynebu drwy ddewis cynyddu’r wobr ariannol i £200,000. Yr enillwyr oedd: Aberdeen Art Gallery; Gairloch Museum; Science Museum; South London Gallery; a Towner Eastbourne www.artfund.org

Cronfa Grant Prynu V&A

Mae Cronfa Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu V&A yn gronfa a ariennir gan y llywodraeth er mwyn helpu amgueddfeydd rhanbarthol, swyddfeydd cofnodi a llyfrgelloedd arbenigol yng Nghymru a Lloegr i gaffael gwrthrychau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, llenyddiaeth a hanes.

Fe’i sefydlwyd yn yr Amgueddfa Victoria&Albert (V&A) ym 1881 ac mae’n parhau i fod yn rhan o’i waith cenedlaethol.

Mae’r gyllideb grant flynyddol, sydd ar hyn o bryd yn £724,000, yn cael ei ddarparu gan Gyllid Cronfa Genedlaethol y Loteri, Cyngor Celfyddydau Lloegr.

Bob blwyddyn, bydd y Gronfa Grantiau Prynu yn ystyried tua 150 o geisiadau ac yn rhoi grantiau i tua 100 o sefydliadau gan alluogi sefydliadau i gaffael gwerth dros £3 miliwn o wahanol bethau.

Ewch i’r wefan: wvam.ac.uk/purchasegrantfund


Wedi'i bostio ar 4 Mawrth 2021