Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ysgolion i ddarparu gofal hanfodol yn ystod yr achosion o Coronafeirws

Wedi'i bostio ar 20 Mawrth 2020

Bydd holl ysgolion Ynys Môn yn aros ar agor ddydd Llun (23 Mawrth) er mwyn darparu gofal i'r plant hynny sydd fwyaf anghenus yn ystod yr achosion o Coronafeirws.

Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi gofyn i rieni / gofalwyr gadw eu plant gartref, lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, bydd ysgolion lleol yn dal i ddarparu gofal i'r plant hynny sydd wir angen eu mynychu.

Bydd y rhain yn cynnwys plant bregus, plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a phlant y mae eu rhieni'n hanfodol ar gyfer yr ymateb lleol i COVID-19 ac na ellir gofalu amdanynt yn ddiogel gartref.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Dylid gofalu am  bob plentyn gartref os oes modd gwneud hynny’n ddiogel.  Lleiaf yn y byd o blant sy'n mynd i'r ysgol, lleiaf yn y byd yw’r risg y gall y feirws hwn ledaenu a heintio unigolion bregus ledled yr Ynys. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn parhau i fod yn lleoedd diogel i blant yn ystod yr argyfwng  hwn."

“Rydym yn ddiolchgar am waith athrawon a staff mewn ysgolion ledled yr Ynys wrth iddynt barhau i ddarparu gofal i blant y gweithwyr hollbwysig lleol eraill a’r plant mwyaf anghenus. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n hymdrech leol i frwydro yn erbyn y clefyd hwn.”

Mae'r trefniadau gofal newydd sydd ar waith bellach yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Byddant yn cael eu monitro'n ofalus ac maent yn debygol o gael eu haddasu wrth i'r amgylchiadau ddatblygu.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Ynys Môn, Rhys Howard Hughes, “Hoffwn fynegi fy niolchgarwch a’m gwerthfawrogiad diffuant i holl staff ysgolion  Ynys Môn. Maent wedi gweithio’n ddiflino i helpu i roi’r trefniadau newydd hyn ar waith yn ystod amseroedd anodd ac wedi meddwl a gweithredu ar ran eraill.”

“Hoffwn hefyd ddiolch i rieni am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. ‘Rwy’n sylweddoli eich bod i gyd wedi bod trwy gyfnod hynod o bryderus a gofidus yn ystod y dyddiau a'r wythnosau diwethaf. Rwy’n llwyr sylweddoli hyn ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar i chi am eich amynedd wrth i faterion gael eu hegluro.”

Yr egwyddorion allweddol i'w dilyn yw:

  • Ni ddylai rhieni ddibynnu ar ofal plant gan unigolion sydd yn y grwpiau bregus cydnabyddedig (fel neiniau a theidiau).
  • Dylai rhieni hefyd wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn dilyn yr un egwyddorion pellhau cymdeithasol ag oedolion.

Gellir gweld diweddariadau am wasanaethau'r Cyngor yn ystod yr achosion o Coronafeirws ar ein gwefan www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws

Diwedd 20.3.20


Wedi'i bostio ar 20 Mawrth 2020