Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Casgliad gwastraff swmpus domestig


Os nad ydych yn gallu mynd a eitemau mawr megis popty, dodrefn, oergell neu rewgell i un o’n canolfannau ailgylchu, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth casglu gwastraff swmpus.

Mae’r gwasanaeth yn costio £46 yn cynnwys TAW i gasgu hyd at bedwar eitem.

Bydd angen tâl oflaen llaw drwy gerdyn debyd/credyd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Mae trefnu’r casgliad yn hawdd gyda'r ffurflen ar-lein isod.

Fel arall, ffoniwch yr Adain Rheoli Gwastraff ar 01248 752860 gyda’ch cerdyn credyd/debyd wrth law i dalu a threfnu’r casgliad. 

Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • yr eitemau i’w casglu 

Rhaid cyflwyno pob eitem ar ymyl cwrtili'r eiddo neu mor agos at y briffordd â phosibl erbyn 7y.b ar ddiwrnod penodedig y casglu. 

Os nad yw'r eitemau wedi'u cyflwyno yn y man casglu erbyn yr amser hwn a bod y cerbyd casglu wedi ceisio eu casglu, yn anffodus ni fyddwn yn gallu darparu ad-daliad.

Gweler y termau ac amodau.

Ni allwn gasglu’r eitemau canlynol fel rhan o’r casgliad gwastraff swmpus:

  • gwastraff adeiladwyr
  • gwastraff gardd (ewch â hwn i’ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff tŷ dros ben (ewch â hwn i’ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff hylendid (mae trefniant arbennig ar gyfer gwastraff hylendid - cysylltwch â ni)

Canolfannau ailgylchu gwastraff domestig

Cofiwch fod yna ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Domestig lle y gallwch gael gwared ag eitemau mawr a gwastraff o’ch cartref am ddim.

Cliciwch ar y linc uchod ar gyfer lleoliadau’r ddwy ganolfan ac amseroedd agor os gwelwch yn dda.

Opsiynau eraill ar sut i gael gwared â gwastraff swmpus

  • defnyddiwch y rhyngrwyd lle y gallwch gael golwg ar wahanol wefannau ar gyfer gwerthu eich eitemau neu sut i ailddefnyddio eitemau diangen
  • gall dodrefn gael ei werthu drwy roi hysbyseb mewn cylchgronau a phapurau newydd lleol
  • neu opsiwn arall yw Dyfodol i Ddodrefn yn Llangefni. Maent yn derbyn dodrefn ac yna eu gwerthu am bris gostyngol. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth casglu a gwasanaeth clirio tai am bris rhesymol. Ffoniwch 01248 724433 am fwy o fanylion
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.