Sut rydym ni'n gwneud yr hyn rydym ni'n ei wneud
Ein Gweithlu a sut rydym ni'n cefnogi eu rolau proffesiynol
Mae Tîm Dysgu a Datblygu (D&D) yr Awdurdod yn cefnogi cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu ar gyfer y Sector Corfforaethol (y Cyngor) yn ogystal â'r Sector Gofal Cymdeithasol sydd yn cynnwys grwpiau Partneriaeth.
Fel rhan o'r rôl o gefnogi y Sector Gofal Cymdeithasol mae'r Tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru (PDGCC) er mwyn darparu cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Gweithlu Gofal Cymdeithasol yr Awdurdod yn ogystal â'r Bartneriaeth Gofal Cymdeithasol ehangach yn Ynys Môn.
Mae aelodaeth o’r Bartneriaeth PDGCC yn cynnwys yr Awdurdod Lleol, y Sector Annibynnol a Gwirfoddol, darparwyr Gofal Cymdeithasol (Gofal Cartref a Phreswyl) a phartneriaid sy'n cydweithio i gynorthwyo'r sector i ddatblygu gweithlu sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau priodol i gwrdd â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau uniongyrchol).
Y meysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir yw'r rheini a nodir yng Nghylchlythyr Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio'r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i'w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau heblaw y rhai a nodir yn y llyfryn hwn.
Fel Tîm, rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol a allai fod gennych ac i gael sylwadau am y ddarpariaeth. Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y rhain gyda chi. Nodir manylion cyswllt ar dudalen 3.
Sut i gysylltu â ni
Tîm Dysgu a Datblygu
Uned Adnoddau Dynol Pencadlys,
Swyddfeydd y Cyngor,
Llangefni
LL77 7TW
Ffôniwch 01248 750057 neu e-bostiwch Gweithlugofal@ynysmon.llyw.cymru
Cynllun hyfforddi a datblygu
Yn dilyn y casgliad llwyddiannus o anghenion hyfforddiant gan y Gwasanaethau Oedolion, Plant, ac Iechyd Meddwl, Uned Darparwyr, Gofalwyr Maeth a’n Sefydliadau Partner, mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi creu'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu canlynol ar gyfer 2024 i 2025.
Bydd taflenni yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y cyrsiau fel; dyddiadau, amseroedd, nodau, amcanion a lleoliad, yn cael eu rhannu gyda’r gynulleidfa darged unwaith y cytunir ar y trefniadau a’i rhoi ar waith.
Gallwch weld manylion a gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd yn dod i fyny drwy’r wefan ganlynol:
Digwyddiadau hyfforddi
Yn dilyn y casgliad llwyddiannus o anghenion hyfforddiant gan y Gwasanaethau Oedolion, Plant, ac Iechyd Meddwl, Uned Darparwyr, Gofalwyr Maeth a’n Sefydliadau Partner, mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi creu'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu canlynol ar gyfer 2024/2025.
Bydd gwybodaeth manwl am y cyrsiau fel; dyddiadau, amseroedd, nodau, amcanion a lleoliad, yn cael eu rhannu gyda’r gynulleidfa darged unwaith y cytunir ar y trefniadau a’i rhoi ar waith.
Gallwch weld manylion a gwybodaeth am ddigwyddiadau yn fan yma.
Os hoffech drafod unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol sydd gennych chi neu'ch sefydliad, cysylltwch â'r tîm (gweler manylion cyswllt ar dudalen 3 or ddogfen yma).
Os oes gennych ddiddordeb mynychu hyfforddiant sydd heb ei gynnwys yn y cynllun presennol anfonwch e-bost atom.
- Diogelu - Grŵp B
- Diogelu - Grŵp C
- Amddiffyn Plant
- Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)
- Deddf Galluedd Meddyliol
- ATAL• Gofyn a Gweithredu
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Llinellau Cyffuriau
- Rheolaeth drwy Orfodaeth
- Caethwasiaeth Fodern
- Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant
- Anffurfio Organau Cenhedlu Merched
- Glendid Bwyd
- Diogelwch Tân
- Marsial Tân
- Iechyd a Diogelwch
- Symud a Thrin, Pasbort A-F
- Cymorth Cyntaf
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Meddyginiaeth
- Asesu Risg
- Diogelwch Personol
- Atal Haint
- Gweithio ar ben eich hun
- Cofnodi ac Adrodd
- Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
- Parch – RESPECT
- Gwaith Stori Bywyd
- Plant mewn Gofal
- Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol
- Gweithio gyda Phobl Ifanc sy'n Ceisio Lloches ar eu Pen eu Hunain
- Gweithio gyda Throseddwyr Cam-drin Domestig
- AIMS – Ymddygiad Rhywiol Niweidiol
- Ymchwiliad Adran 47, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Sicrhau’r Dystiolaeth Orau
- Adroddiadau Llys a Thribiwnlysoedd
- Sgiliau Llys
- Ymwybyddiaeth Diwylliannol
- Cyflwyniad i Awtistiaeth a Syndrom Asperger
- Goruchwyliaeth
- Makaton
- Ymwybyddiaeth Epilepsi
- Ymwybyddiaeth Clefyd Siwgr
- Delio â Sefyllfaoedd Heriol
- Cysylltiadau a Gwytnwch
- Datblygiad Plentyn
- Cyfathrebu Cydweithredol
- Trawma a Cholled
- Therapi Chwarae
- Mwy na Geiriau
* Yn ogystal a cyfwerth y cyrsiau nodir o dan plant a phobl ifanc:
- Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
- Dyslecsia
- Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol
- Casglu
- Technegau Tawelu
- Ymwybyddiaeth Hunanladdiad
- Ffiniau Personol a Phroffesiynol
- Gofal Iechyd Parhaus (CHC)
- Deddf Galluedd Meddyliol
- Galar a Cholled
* Yn ogystal a’r cyrsiau perthnasol nodir o dan oedolion:
- Colled Synhwyrau
- Ymwybyddiaeth Strôc
- Gofal Diwedd Oes
- Cefnogaeth Actif
- Atal Cwympiadau
- Clefyd Parkinson’s
- Gofal Stoma a Cathetr
- Gofal Personol
- Rheoli Dolur Pwysau
- Gwerth ac Urddas
- Gofal y Geg
- Dementia *Cysylltwch am fwy o wybodaeth
- Cofnodi
- Gofal mwy Diogel a Rheoli Honiadau
- Diogelu – Gofalwyr Maeth
- Gweithio gyda Theuluoedd Biolegol (Cyswllt)
- Camdriniaeth Domestig
- Datblygiad Plant
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Byw â Phobl Ifanc yn eu Harddegau
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Mwy na Geiriau
- Iechyd Meddwl ar gyfer staff
- Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr
- Ymwybyddiaeth Pryder
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddw
- Gwytnwch
- Sesiynau cymorth Modiwlau Mandadol
- Troseddau Seibr
- Galluoedd Digidol mewn Gofal Cymdeithasol
- Diogelwch Rhyngrwyd
- Diogelwch Seibr
* Bydd lefel y cymhwyster y gallwch ymgymryd ag ef yn dibynnu ar eich swydd. Siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 2 a 3
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Lefel 3
- Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4
- Paratoi am Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 4
- Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5
* Mae mynediad i'r cymwysterau yma yn gyfyngedig, bydd pob cais yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Siaradwch â'ch rheolwr llinell i gychwyn.
- TystAU Ymarfer Gofal Cymdeithasol (K102 / KZW123)
- Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
- AMHP (Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol a gymeradwywyd ymlaen llaw
- AMHP (Ymarferydd Iechyd Meddwl wedi’i gymeradwyo)
- TMDP (Rhaglen Datblygiad Rheolwr Tîm)
- MMDP (Rhaglen Datblygiad Rheolwr Canol)
- Dyfarniad Addysgu Ymarfer
- Aseswr Budd Gorau