Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynnal a chadw llwybrau


Mae’r rhan fwyaf o hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi tir preifat.  Caiff y cyfrifoldeb amdanynt ei rannu gan y tirfeddiannwr a’r awdurdod priffyrdd.  Yn syml, mae’r tirfeddiannwr yn gyfrifol am sicrhau nad oes rhwystrau arnynt a gofalu am giatiau a chamfeydd ar hyd y llwybr, a’r awdurdod priffyrdd yn gyfrifol am gadw’r llwybrau mewn cyflwr da a chodi arwyddion ac ati arnynt.

Ym Môn, mae’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gofalu am yr holl lwybrau mewn ardaloedd gwledig ac am rai mewn trefi.  Gofelir am y rhan fwyaf o lwybrau trefol sydd ag wyneb wedi’i selio - tarmac, fflagiau neu goncrit -gan y tîm priffyrdd.

Mae’r cyngor yn awyddus i sicrhau nad yw adeiladau newydd a datblygiadau eraill yn tarfu’n ddiangen ar rwydwaith yr hawliau tramwy cyhoeddus a bod mynediad i’r cyhoedd yn gwella lle bo modd. ’Cyhoeddir arweiniad gan y Cyngor wedi anelu at swyddogion cynllunio, datblygwyr a throsglwyddwyr. 

P’run a yw’r llwybrau mewn ardal drefol neu wledig, nodir dyletswyddau’r Cyngor, fel yr awdurdod priffyrdd, yn y rhestr isod. 

  • Ymhlith cyfrifoldebau’r Cyngor mae:
  • Cadw hawliau tramwy’n glir o isdyfiant (h.y. llystyfiant yn tyfu yn wyneb y llwybr)

Strimio a chynnal a chadw’n rheolaidd y llwybrau ar y rhestr. Pe byddech yn dymuno awgrymu llwybrau eraill y mae gofyn eu hychwanegu at ein rhestr, a fyddech cystal â llenwi ein ffurflen o broblemau ar lwybrau neu roi gwybod i ni trwy ein ffonio neu drwy ysgrifennu at y swyddfa cynnal a chadw hawliau tramwy.

Cynorthwyo ffermwyr a thirfeddianwyr i gynnal a chadw giatiau a chamfeydd 

  • Codi arwyddion ar lwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd lle byddant yn gadael y ffordd fetel
  • Creu cyfres o farciau ar lwybrau i gynorthwyo defnyddwyr i gael hyd i’w ffordd
  • Cynnal a chadw ‘r rhan fwyaf o bontydd a ffosydd

Ymhlith cyfrifoldebau’r tirfeddianwyr mae:

  • Cadw unrhyw hawliau tramwy’n glir o ordyfiant (h.y. gwrych yn tyfu allan ar draws y llwybr)
  • Cynnal a chadw camfeydd a giatiau y mae eu hangen ar y llwybr
  • Cadw’r llwybr yn glir o rwystrau – gan gynnwys tyfu cnydau
  • Peidio ag aredig llwybrau sy’n rhedeg ger ymyl caeau, nac unrhyw gilffordd
  • Adfer llwybrau sy’n rhedeg lletraws ar hyd caeau ar ôl aredig ac ati (yn unol â Deddf Hawliau Tramwy 1990)

Os dowch ar draws unrhyw broblemau sy’n cael effaith ar hawl dramwy yn Ynys Môn, neu os byddwch yn dymuno awgrymu llwybrau eraill y mae angen eu hychwanegu at ein rhestr cynnal a chadw rheolaidd, a fyddech cystal â chysylltu â’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus.