Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Enwi strydoedd a rhifo eiddo


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu fel yr Awdurdod Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo, yn gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd ac adeiladau o fewn ei ardal.

Bydd yn gwneud y swyddogaethau hyn o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Cyhoeddus 1925, adrannau 17 -19.

  • Mewn argyfyngau, yn arbennig yn ystod y nos, gall yr angen i ganfod cyfeiriadau yn sydyn gan ddoctoriaid a gwasanaethau argyfwng fod yn fater o fywyd neu farwolaeth
  • Mae gwasanaethau a phobl yn danfon nwyddau, yn ogystal ag ymwelwyr, angen dod o hyd i eiddo mewn ffordd effeithiol
  • Bydd nifer o drafodion cyfreithiol yn gysylltiedig ag eiddo yn cael eu dal yn ôl hyd nes y gallant gael eu nodi yn ôl enw stryd a rhifau, ac ni fydd darparwyr statudol fel nwy, trydan a dŵr er enghraifft, fel arfer yn cysylltu eu gwasanaethau hyd nes y bydd yr eiddo wedi derbyn cyfeiriad post ffurfiol
  • ysondeb gwybodaeth yn ymwneud ag eiddo ar draws Llywodraeth Leol ac o fewn y gymuned o ddefnyddwyr

Os yw eiddo eisoes wedi ei rifo, gall perchennog eiddo hefyd enwi eu heiddo heb gysylltu â’r Cyngor cyn belled ag nad yw’n gwrthdaro gydag enw eiddo sy’n bodoli yn yr ardal.

Ni fydd enw’r eiddo mewn achos o’r fath yn swyddogol yn ffurfio rhan o gyfeiriad yr eiddo, a rhaid arddangos rhif yr eiddo a chyfeirio ato mewn unrhyw ohebiaeth. Nid oes ond angen i chi gael caniatâd gan y Cyngor os nad oes unrhyw rif wedi ei ddynodi yn eich cyfeiriad swyddogol (er enghraifft os dyrannwyd enw i’ch eiddo fel rhan o’i gyfeiriad swyddogol).

Lle ceir cyfeiriadau lle nad oes unrhyw rif wedi ei roi, bydd yr enw a roddir yn ffurfio rhan o’r cyfeiriad swyddogol. Mewn achosion o’r fath rhaid i berchnogion eiddo sy’n dymuno newid enw’r eiddo wneud eu cais yn ysgrifenedig, gan roi eu henw, cyfeiriad presennol llawn yr eiddo a nodi’n glir yr enw newydd y maent yn ei ffafrio.

Byddwn yn cysylltu â’r Post Brenhinol i weld a oes ganddynt unrhyw wybodaeth am eiddo gydag enw tebyg yn yr ardal. Byddwn yn gwirio ein systemau gwybodaeth ac os bydd yr enw’n foddhaol, yna bydd y cyfeiriad newydd yn cael ei gofrestru a byddwch yn cael eich hysbysu o hynny.

Os bydd yna unrhyw broblem gyda’r enw yr ydych yn ei ffafrio byddwn yn gofyn am ddewisiadau eraill. Bydd y wybodaeth am newid enw’r eiddo wedyn yn cael ei anfon i’r Post Brenhinol, i’r gwasanaethau argyfwng a hanfodol a gwasanaethau perthnasol eraill y Cyngor. Cyfrifoldeb perchnogion yr eiddo yw hysbysu eu cysylltiadau personol eu hunain.

Ym mhob achos (swyddogol neu answyddogol), lle bo angen dewis neu newid enw, anogir perchnogion tai i fathu enwau Cymraeg arnynt, yn unol â Polisi ar Enwi a Rhifo Strydoedd a Thai y Cyngor.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.

Os ydych yn ddatblygwr eiddo newydd (datblygiad sengl neu fechan), dylech gysylltu cyn gynted ag y byddwch yn dechrau’r gwaith ar y safle.

Bydd datblygiad sengl neu fychan fel arfer yn cael ei enwi neu ei rifo i mewn i’r stryd bresennol. Os bydd eiddo wedi eu henwi yn y stryd, byddwn yn dilyn ein proses ‘Enwi eich Ty’ arferol. Os nad ydych mewn sefyllfa i roi enw i’r eiddo ar adeg ei adeiladu, efallai byddwn yn cytuno i ddefnyddio rhifau plot y datblygwr i ddechrau i gofrestru cyfeiriad yr eiddo ac wedyn, pan fydd y perchennog newydd yn dewis enw, bydd yn rhaid iddynt ddilyn ein proses arferol i Newid Enw Eiddo.

Lle nad oes sustem rhifo mewn stryd a lle bydd angen dewis enw i’r tŷ (tai), fe’ch anogir i fathu enw(au) Cymraeg, yn unol â Polisi ar Enwi a Rhifo Strydoedd a Thai  y Cyngor.

Bydd y wybodaeth hon wedyn yn cael ei hanfon i gyfleustodau cyhoeddus, gwasanaethau argyfwng, Y Gofrestrfa Dir, Arolwg Ordnans a gwasanaethau
perthnasol y Cyngor. Byddwch hefyd yn derbyn copi o’r cyfeiriad cofrestredig a byddwn yn gofyn i chi hysbysu eich prynwyr tebygol o gyfeiriad eu heiddo newydd.

Pe bai cais yn cael ei gyflwyno yn hwyr ac yn cael ei wrthod wedi hynny, fe all nifer o broblemau godi, yn arbennig os yw prynwyr wedi prynu eiddo wedi’u marchnata o dan enw nad oedd wedi’i gymeradwyo.

Cynghorir chi yn gryf iawn felly i fod yn wyliadwrus iawn yn y defnydd o enwau i farchnata eich datblygiad newydd oherwydd pe bai’n methu â chyfarfod y meini prawf penodol ni fydd yn derbyn cymeradwyaeth y Cyngor, ac ni fydd felly yn cael ei gadw fel rhan o’r cyfeiriad. Dylai unrhyw wybodaeth a ddosberthir i ddarpar brynwyr nodi’n glir na fydd yr enw marchnata o anghenraid yn ffurfio rhan o gyfeiriad yr eiddo.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.

Os ydych yn ddatblygwr stad fawr, dylech gysylltu â ni mor fuan â phosibl, gorau oll cyn i chi ddechrau’r gwaith ar y safle ac yn ddelfrydol cyn bod enw answyddogol wedi ei greu, i farchnatu neu bod dogfennau cyfreithiol wedi’u drafftio fel y gallwn brosesu’r gwaith o enwi unrhyw strydoedd newydd a rhifo eich eiddo newydd heb oedi.

Pe bai cais yn cael ei gyflwyno yn hwyr ac yn cael ei wrthod wedi hynny, fe all nifer o broblemau godi, yn arbennig os yw prynwyr wedi prynu eiddo wedi’u marchnata o dan enw nad oedd wedi’i gymeradwyo. Cynghorir chi yn gryf iawn felly i fod yn wyliadwrus iawn yn y defnydd o enwau i farchnata eich datblygiad newydd oherwydd pe bai’n methu â chyfarfod y meini prawf penodol ni fydd yn derbyn cymeradwyaeth y Cyngor, ac ni fydd felly yn cael ei gadw fel rhan o’r cyfeiriad. Dylai unrhyw wybodaeth a ddosberthir i ddarpar brynwyr nodi’n glir na fydd yr enw marchnata o angenrhaid yn ffurfio rhan o gyfeiriad yr eiddo. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl ym mhob amgylchiad i newid enw marchnata gydag enw stryd o’i ddewis.

Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd yn rhaid i enwau strydoedd newydd gydymffurfio â Polisi ar Enwi a Rhifo Strydoedd a Thai y Cyngor, sy’n dweud ym mharagraff 5.3 “Lle enwir strydoedd neu ystadau newydd, bydd yr enwau newydd yn cael eu seilio ar enwau cynhenid, hanesyddol yr ardal yn Gymraeg. Pan fo’n rhaid bathu enw newydd, gwneir hynny’n Gymraeg yn unig”. Ni fydd enwau nad ydynt yn cydymffurfio â’r angenrhaid hwn yn cael eu derbyn.

Wedi i ni gael enw y cytunir arno byddwn wedyn yn cofrestru enw(au)’r stryd ac yn paratoi rhestr rifo. Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei hanfon i’r Post Brenhinol, cyfleustodau cyhoeddus, y gwasanaethau argyfwng, Y Gofrestrfa Dir, Arolwg Ordnans a gwasanaethau perthnasol y Cyngor. Byddwn hefyd yn anfon copi i chi o’r rhestr enwi a rhifo (all gynnwys y Côd Post a ddyrannwyd gan y Post Brenhinol), a byddwn yn gofyn i chi hysbysu pob un o’ch
prynwyr tebygol o gyfeiriad eu heiddo newydd. Lle y bo’n briodol, gofynnir i chi ddarparu platiau enwau stryd newydd yn unol â’n dyluniad a’n manyleb safonol.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.

Ar rai achlysuron prin bydd angen ailenwi neu ailrifo stryd

Lle:

  • Mae dryswch ynglŷn ag enw ac/neu rifau stryd
  • Lle mae eiddo newydd yn cael eu hadeiladu mewn stryd ac nid yw’n bosibl rhoi’r eiddo newydd i mewn i’r cynllun rhifo presennol trwy ddefnyddio rhagnodau fel ‘A’, ‘B’, ‘C’ ac ati. a bod angen wedi hynny i’r eiddo arall gael eu hailrifo er mwyn gallu derbyn yr eiddo newydd
  • Y tybir bod nifer yr eiddo gydag enwau yn unig mewn stryd yn achosi dryswch i ymwelwyr, i’r gwasanaethau argyfwng neu i rai yn danfon nwyddau

Byddir yn cysylltu â’r preswylwyr cyfredol a byddir yn ystyried eu safbwyntiau.

Byddwn wedyn yn ymgynghori â’r Post Brenhinol i gael eu safbwynt hwy ar y mater.

Er mwyn newid enw stryd byddwn yn cynnal pleidlais ar y mater ymysg y preswylwyr lleol. Yn ddelfrydol fe geir cefnogaeth 100% ond rydym angen o leiaf draean o fwyafrif i wneud y newid. Mae hon yn broses lafurus o ran amser ac mae’n golygu gwneud gorchmynion cyfreithiol. Os ceir gwrthwynebiadau i Orchymyn ailenwi / ailrifo arfaethedig, efallai y bydd angen cyfeirio’r mater i’r Llys Ynadon i gael barn. Fe all ailrifo eiddo / adeiladau cyfredol neu ailenwi strydoedd achosi costau ac / neu anhwylustod i ddeiliaid unigol ac ni ddylid ond ystyried hyn fel y dewis olaf lle bynnag y bo’n bosibl.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.

Nid yw’r Cyngor Sir am gyfrifol am ddosbarthu Codau Post oherwydd mai mater yr ymdrinnir ag ef gan y Post Brenhinol yn unig yw hwn.

Ewch i  wefan y Post Brenhinol neu ffoniwch 08456011110.  Ni fydd y Post Brenhinol yn creu côd post ar gyfer adeilad newydd heb gadarnhau bod y cyfeiriad wedi ei ddynodi’n swyddogol gan yr Awdurdod Enwi Stryd a Rhifo.

Nid yw’r Post Brenhinol yn cyhoeddi ar ei wefan gyfeiriadau eiddo nad ydynt wedi eu cwblhau eto a/neu lle nad oes neb yn byw ynddynt eto.  Mae hyn yn golygu na fydd cyfeiriadau, mewn rhai achosion y cafwyd cytundeb arnynt gyda’r Cyngor, i’w gweld gan unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan i wirio cyfeiriad am ychydig.  Mewn amgylchiadau o’r fath, cyfrifoldeb y datblygwr yw hysbysu’r Post Brenhinol bod eiddo wedi ei gwblhau fel y gallant hwy ei symud o’u ffeil ‘heb ei adeiladu’ i’r prif fâs-data codau post.  Gellir cysylltu â’r post Brenhinol ar y rhif uchod.  Os bydd y Post Brenhinol wedi ein hysbysu o’r côd post y maent wedi ei roi i’ch eiddo cyn ein bod ni yn anfon manylion am y cyfeiriad cofrestredig i chi, byddwn yn cynnwys y Côd Post.

Ynghyd â’r ffurflen gais fe ddylid cael Cynllun yn dangos gosodiad y stryd gydag enw presennol y stryd neu enw a awgrymir i’r stryd. Dylai’r cynllun fod ar raddfa o 1:2500, 1:1250 neu 1:500 a dylai gynnwys Saeth Gogleddol yn dangos y ffordd / ffyrdd arfaethedig a rhifau plot (neu enw) a digon o’r ardal oddi amgylch, yn cynnwys enwau’r ffyrdd bresennol a rhifau eiddo, fel y gellir ei groesgyfeirio i ddata mapio Arolwg Ordnans. Rhaid i’r cynllun hwn nodi’r brif fynedfa i bob eiddo mewn perthynas â’r stryd cyfagos.

Gosodiad mewnol, os yn briodol, ar gyfer datblygiadau sydd wedi eu hisrannu ar lefel uned neu lefel y llawr, e.e. bloc o fflatiau. Rhaid dangos y brif fynedfa i'r fflatiau yn glir mewn perthynas â'r stryd cyfagos.

Cyswllt

  • Yn bersonol: Drwy apwyntiad - 10am - 4pm Dydd Llun i Ddydd Gwener
  • Drwy’r post: Enwi a Rhifo Strydoedd, Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo,Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW
  • Ar y ffôn: 01248 752369 neu 01248 752364
  • Drwy e-bost: snn@ynysmon.llyw.cymru

Gweler y ddogfennau perthynol Ffurflen Gais Enwi a Rhifo Stryd (SNN1) a Pholisi ar Enwi a Rhifo Strydoedd a Thai y Cyngor isod.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.