Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Polisi Cludiant Ysgol


Mae'r Awdurdod Lleol wedi cydnabod ardal ddaearyddol benodol ar gyfer pob ysgol, a elwir yn ddalgylch.

Ceir rhestr o'r holl ysgolion a'u dalgylchoedd yn y llawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' ac fel lawrlwythiad ar y dudalen hon.

Y cyfeiriad cartref sy'n dynodi dalgylch yr ysgol uwchradd, yn hytrach na pha ysgol gynradd yr oedd y plentyn yn ei mynychu.  Mae hyn yn effeithio ar p'un a fydd cludiant ysgol yn ddi-dâl neu'n amodol ar ffi i ddisgyblion. 

Mae disgyblion nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim yn perthyn i un o'r 3 chategori canlynol: 

  • dysgwyr Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11 sy'n byw llai na 3 milltir o'u hysgol dalgylch
  • dysgwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13
  • dysgwyr sy'n byw 'all-ddalgylch', hynny yw, wedi dewis peidio â mynychu eu hysgol addas agosaf 

Noder nad oes sicrwydd o ddarpariaeth cludiant i ysgol 'all-ddalgylch'. Os yw eich plentyn yn perthyn i un o'r 3 chategori uchod, gallwch wneud cais am docyn sedd wag (teithio consesiynol), ond cofiwch: 

  • mae seddi gwag yn gyfyngedig ac nid yw gwneud cais yn gwarantu y cewch docyn bws
  • efallai na fydd yn bosibl rhoi sedd wag nes bod nifer y seddi sbâr wedi'i bennu (unwaith y bydd dysgwyr â hawl yn cael lle ar gerbyd penodol)
  • efallai na fyddwn yn gallu cadarnhau teithio consesiynol cyn dechrau'r flwyddyn academaidd (gall gymryd nifer o wythnosau i bennu argaeledd seddi sbâr ar unrhyw wasanaeth penodol)
  • codir tâl rhesymol am geisiadau llwyddiannus 

Gweler ein Polisi Cludiant Ysgol a tudalen tocynnau bws ysgol i gael rhagor o wybodaeth am ein cynllun seddi gweigion (teithio consesiynol).

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.