Gwasanaethau'r Cyngor:

Cynllun Ysgolion Iach Môn: beth bydd rhaid i'r ysgolion wneud?

Mae’n rhaid i ysgolion gwblhau amcan 1 yn ystod y flwyddyn gyntaf ond maent wedyn yn rhydd i ddewis unrhywrai o’r amcanion eraill. Argymhellir bod ysgolion yn dethol amcanion sy’n cyflenwi eu cynllun gwaith. Yn y ffordd hon daw’r cynllun yn rhan gyfunol o’u bywyd dyddiol.

Gofynnir i ysgolion  gadw portffolio o dystiolaeth bob blwyddyn. Bydd hwn yn cynnwys dogfennau y bydd ysgolion yn eu cadw yn naturiol ee llythyrau i rieni, ffotograffau o ddigwyddiadau, cofnodion cyfarfodydd ayyb.

Ar ddiwedd y flwyddyn os yw’r ysgol a’r cydlynydd yn hapus bod amcanion wedi eu cyflawni bydd asesydd allanol yn ymweld â’r ysgol. Bydd yr asesydd yn edrych drwy’r portffolio ac yn trafod y gwaith sydd wedi digwydd i ddilysu bod y safon wedi ei chyrraedd.

Cyflwynir plac i’r ysgolion wedi cwblhau bob blwyddyn.

Wedi cwblhau’r amcanion bydd ysgolion yn parhau i weithio ar y cynllun drwy gynnal yr amcanion a’u datblygu ymhellach. Parheir i gydnabod ysgolion am y gwaith hwn a pharheir â’r broses i dderbyn placiau pellach.

Mae’r cydlynydd ysgolion iach yn cefnogi ysgolion drwy gydol y cynllun ac yn ymweld yn rheolaidd. Mae gwybodaeth genedlaethol ddiweddar yn cael ei hestyn ymlaen i ysgolion drwy hyfforddiant a digwyddiadau.

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Adran Dysgu Gydol Oes
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 9 Mai 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?