Cefndir i'r cynllun
Datblygwyd y syniad o hybu iechyd mewn ysgolion gan Fudiad Iechyd y Byd ar ddechrau’r 1990au.
Yn y gorffennol, roedd iechyd mewn ysgolion yn canolbwyntio ar addysg iechyd ond sylweddolwyd yn raddol bod angen camau mwy cyfannol i gael effaith mawr ar iechyd plant a phobl ifanc.
Sefydlwyd Rhwydwaith Ewropeaidd Ysgolion sy’n Hybu Iechyd (ENHPS) yn 1992 i ddangos effaith hyrwyddo iechyd mewn ysgolion. Gwnaed astudiaeth mewn nifer o ysgolion ledled Ewrop a bu deuddeg ysgol yn rhan o’r astudiaeth yng Nghymru.
Ymunodd Cymru a’r rhwydwaith Ewropeaidd yn 1994. Yn y lle cyntaf nododd Gwell Iechyd, Gwell Cymru yr angen am groestoriad o ffyrdd i ddiogelu a gwella iechyd pobl, a nawr mae’r ddogfen ymgynghorol Lles yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amlygu pwysigrwydd cynllun yr ysgol iach er mwyn gwella iechyd pobol ifanc yng Nghymru.
Mae Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru (WNHSS) wedi annog datblygiad y cynlluniau ysgolion iach lleol.
Cafodd Cynllun Ysgolion Iach Môn ei achredu yn 2001 gan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Golyga hyn ein bod wedi llwyddo i gyrraedd y safon uchaf a ddisgwylir gan y Cynulliad.




